fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Tîm sglefrolio penigamp i arddangos eu crefft yn Rholio'r Haf


C 6th August 2013

Caiff Abertawe ei chludo’n ôl i Galiffornia’r 1970au mewn ychydig wythnosau pan fydd tîm arddangos sglefrolio cyfareddol yn dangos sgiliau’r grefft i amaturiaid

Swansea_Summer_Roller_1

Swansea Summer Roller 2013

Bydd y Roller Reaper Girls o’r ardal leol yn mynd ar y llawr sglefrolio 30 metr gan 20 metr fel rhan o ddigwyddiad Rholio’r Haf Cyngor Abertawe i berfformio cyfres o arddangosiadau i gyfeiliant alawon disgo poblogaidd o’r gorffennol.

 

Cynhelir Rholio’r Haf ym Mharc yr Amgueddfa o 14 i 27 Awst – yr un lleoliad lle cynhelir Gwledd y Gaeaf ar y Glannau bob Nadolig.

Ymhlith adloniant arall am ddim bydd noson ddisgo, paentio wynebau, sioeau hud a lledrith a sioeau Pwnsh a Siwan. Bydd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe wrth law hefyd gyda straeon i blant bach a bydd Tîm Pobl Ifanc Actif y cyngor yno hefyd.

Bydd y maes parcio ar agor bob dydd o 10am i 9pm. Bydd hefyd yn cynnwys bwth lle gall pobl logi esgidiau rholio fel rhan o’r pris.

Meddai Nadia Watters, un o aelodau sefydlu’r Roller Reaper Girls, “Mae Rholio’r Haf yn gyfle gwych i bobl o bob oedran gymryd rhan mewn sglefrolio a chwaraeon sglefrolio. Tîm roller derby lleol yw Reaper Roller Girls. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad hwn a bydd rhai o’n merched wrth law hefyd i ateb unrhyw gwestiynau am y gamp a’r tîm.”

Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae’r diddordeb yn y digwyddiad hwn ar wefannau cyfryngau cymdeithasol megis Facebook wedi bod yn galonogol iawn oherwydd bod llawer o bobl wedi’i gymeradwyo ac wedi rhannu’r wybodaeth â’u ffrindiau hefyd. Bydd Rholio’r Haf yn creu awyrgylch rhyfeddol ac ail-greu gwefr a chyffro Gwledd y Gaeaf ar y Glannau ym mis Awst.”

Mae tocynnau ar werth nawr ac maent ar gael trwy ffonio 01792 637300, mynd i www.gwylbaeabertawe.co.uk neu alw heibio i Ganolfan Croeso Abertawe ar Stryd Plymouth.

Cefnogir y digwyddiad gan Admiral, Diogelwch Ffyrdd, Coleg Gwyr, The Wave a Sain Abertawe.