fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Pum Parc yn Abertawe'n ennill statws y Faner Werdd


C 2nd August 2013

Anrhydeddwyd pum parc yn Abertawe â statws y Faner Werdd nodedig.

Green-Flag-Award

Green Flag Award

Mae Gerddi Clun, Gerddi Botaneg Singleton, Parc Victoria, Parc Brynmill a Pharc Cwmdoncyn i gyd wedi cael eu cydnabod am eu safonau uchel.

 

Mae statws y Faner Werdd yn golygu y gall ymwelwyr fod yn hyderus bod parc yn fan gwyrdd o ansawdd uchel sy’n rhoi profiad dymunol i ymwelwyr o bob oedran. Dim ond parciau sy’n cynnig mynediad am ddim i’r cyhoedd sy’n gymwys i dderbyn y statws.

Cyngor Abertawe sy’n rheoli pob un o’r pum parc sydd wedi ennill y dyfarniad.

Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod y Cabinet dros Adfywio, “Mae parciau’n adnoddau hollbwysig yn ein cymunedau oherwydd eu bod yn cynnig amgylchedd tawel lle mae pobl yn gallu dianc rhag bwrlwm bywyd pob dydd.

“Maen nhw’n lleoedd gwych i bobl o bob oedran am eu bod yn fannau delfrydol i gicio pêl yn yr haul neu fynd am dro hamddenol ar brynhawn Sul.

“Rydym yn ffodus yn Abertawe bod gennym arfordir hyfryd ar garreg ein drws, ond mae nifer y lleoedd gwyrdd sydd gennym yn ychwanegu at y golygfeydd naturiol godidog. Mae ennill y pum baner werdd yn glod i’n staff parciau sy’n gweithio’n ddiflino drwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod ein parciau ar eu gorau i bobl leol ac ymwelwyr eu mwynhau.”

Cyflwynwyd cynllun y Faner Werdd wyth mlynedd yn ôl yng Nghymru ac, ers hynny, fe’i mabwysiadwyd yn safon genedlaethol ar gyfer parciau yma ac yn Lloegr.

Mae Gerddi Clun, Gerddi Botaneg Singleton, Parc Victoria a Pharc Brynmill yn cadw’r statws a ddyfarnwyd iddynt yn 2012, ond mae Parc Cwmdoncyn yn ei ennill am y tro cyntaf.

Mae’r parc, sydd o fewn tafliad carreg o gartref plentyndod Dylan Thomas, yn cael ei weddnewid mewn pryd i ddathlu canmlwyddiant geni’r bardd y flwyddyn nesaf. Mae’r prosiect yn cynnwys gwaith i adnewyddu cysgodfa Dylan Thomas ac ystafell de â naws y gorffennol sy’n ail-greu ysbryd creadigol y 1930au yn Abertawe. Crëwyd ardal eistedd ganolog hefyd gyda dyfyniadau o rai o weithiau enwocaf Dylan wedi’u cerfio mewn carreg, yn ogystal â gwell mynedfeydd a thoiledau. Gallai’r gwaith tacluso a phlannu bara tan yr hydref.

Ariennir gwaith gweddnewid y parc gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Prosiect Twristiaeth Gynaliadwy Llywodraeth Cymru, gyda chymorth Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cyngor Abertawe a Chyfeillion Parc Cwmdoncyn.

Ewch i http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=17400 i gael rhagor o wybodaeth am barciau a mannu gwyrdd Abertawe.