Mae marmalêd, dewisiadau’r haf a charped canoloesol ymysg y cymysgedd o flodau gwyllt sy’n diddanu modurwyr sy’n gyrru i mewn ac allan o Abertawe.
Mae’r cymysgedd ymysg sawl un sy’n cael ei dreialu gan Gyngor Abertawe ar ymylon glaswellt ger rhai o’r pyrth allweddol i mewn ac allan o’r ddinas. Mae’r lleoliadau’n cynnwys cyffordd Heol Ashleigh â Heol y Mwmblws, cyfnewidfa Dyfaty ac ardal oddi ar gylchfan Ynysforgan.
Mae llin, melyn mair a hocys ymysg rhai o’r hadau blodau sy’n cael eu defnyddio yn y cyfuniadau gwahanol. Mae sawl un o barciau’r ddinas hefyd yn elwa o’r cynllun, gan gynnwys Parc-y-Werin yng Ngorseinon, Parc Llewelyn Treforys a Pharc Brynmill.
Dechreuodd y paratoadau ym mis Ionawr pan gafodd darnau o dir eu chwistrellu ac yna eu palu â pheiriant cyn plannu’r hadau ar ddechrau’r gwanwyn.
Mae sawl person wedi cysylltu â’r cyfryngau lleol a mynd ar wefannau fel Twitter i ganmol Cyngor Abertawe am yr arddangosfeydd.
Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod y Cabinet dros Adfywio, “Mae’r cynllun blodau gwyllt wedi bod yn llwyddiant gwych sydd wedi helpu i wella delwedd sawl pharc a phrif ffordd i mewn ac allan o’r ddinas. Rydym yn ffodus yn Abertawe ein bod yn gallu mwynhau lleoliad naturiol trawiadol, ond mae angen i ni hefyd wneud popeth y gallwn i wneud ein dinas mor ddeniadol â phosibl. Mae hyn yn bwysig am ei fod yn codi calon cymudwyr ac yn creu argraff gyntaf wych ar ymwelwyr ag Abertawe – y bydd llawer ohonynt yn dod yma am y tro cyntaf.
“Mae’r cynllun blodau gwyllt yn un o nifer o ffyrdd rydym yn hybu golwg y ddinas. Ymysg y llwyddiannau eraill mae cystadleuaeth flynyddol Abertawe yn ei Blodau rydym yn ei chynnal a’n cynllun basgedi crog y mae llu o fusnesau a thrigolion yn elwa ohono bob blwyddyn. Mae’r cynlluniau hyn yn cyfuno i sicrhau bod Abertawe’n galeidosgop o liw bob haf.”
Meddai Mike Stroud, o Heol Gabalfa yn Sgeti, “Llongyfarchiadau i bwy bynnag yn Abertawe sy’n gyfrifol am y stribedi o flodau gwyllt sydd wedi’u plannu ar hyd ymyl Heol y Mwmbwls. Maent yn frith o liw ac yn flas ar yr hyn allai fod.”
Meddai Nicci Southard ar Twitter, “Mae’r blodau gwyllt ar Heol y Mwmbwls ac ar draws Abertawe’n edrych yn wych.”
Meddai Wendy James, o Aberteifi, “Gwelais arddangosfa drawiadol o flodau gwyllt ar y cylchfan yng ngwasanaethau Gorllewin Abertawe. Maent wedi’u plannu’n dda.”
Mae lleoliadau eraill sy’n cynnwys cymysgedd o flodau gwyllt yn cynnwys Stryd Bathurst, Comin y Gors ym Mhenllergaer, cylchfan Heol Clydach, Parc Singleton, cylchfan Heol Normandi a chylchfan parcio a theithio Heol Normandi.