Bydd yr haf yn ninas Abertawe’n troi’r cloc yn ôl pan fydd atyniad newydd yn agor am y tro cyntaf ar Barc yr Amgueddfa o fewn ychydig wythnosau.
Bydd yr ardal sydd fel arfer yn cynnal Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn cael ei throsglwyddo i Rolio’r Haf, llwyfan sglefrolio enfawr ynghyd ag adloniant, cerddoriaeth a hyd yn oed Traeth Cochyn.
Bydd y gatiau’n agor ddydd Mercher 14 Awst a’r hwyl yn para tan 27 Awst – y diwrnod ar ôl g?yl y banc hwyr yr haf. Mae tocynnau ar werth nawr ac maent ar gael drwy ffonio 01792 637300, mynd i www.gwylbaeabertawe.co.uk neu alw heibio yng Nghanolfan Croeso Abertawe ar Stryd Plymouth.
Bydd ymwelwyr sy’n mwynhau Llwyfan Rholio Admiral 30 metr x 20 metr yn dawnsio i sain traciau disgo o’r 70au a’r 80au, i ychwanegu at y teimlad retro. Bydd hefyd yn cynnwys bwth lle gall pobl logi esgidiau rholio fel rhan o’r pris.
Mae Rholio’r Haf yn rhan o ?yl Bae Abertawe sy’n cael ei threfnu gan Gyngor Abertawe sydd wedi cyflwyno teulu o gymeriadau cart?n sy’n debyg i’r rhai a grëwyd i Wledd y Gaeaf ar y Glannau i helpu i roi hwb i ddiddordeb pobl ifanc.
Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod y Cabinet dros Adfywio, “Rholio’r Haf fydd y ffordd berffaith o gyflwyno plant ifanc i sglefrolio a bydd Ceiliog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe’n ymddangos yn rheolaidd.
“Oddi ar y llwyfan bydd adloniant glan môr traddodiadol gan gynnwys ffair, sioeau Pwnsh a Siwan, paentio wynebau a sioeau hud.
“Fel y bydd unrhyw un a aeth i Sioe Awyr Genedlaethol Cymru yn ddiweddar yn gwybod, mae gan ein dinas lawer i’w gynnig ar yr adeg hon o’r flwyddyn ac mae Rholio’r Haf wedi’i greu i gynnig ychydig bach yn ychwanegol i annog teuluoedd i ymweld â chanol y ddinas.
“Mae digwyddiadau fel y rhain yn bwysig i fasnachwyr lleol am eu bod yn denu miloedd o ymwelwyr i ganol y ddinas a’r Ardal Forol.”
Bydd Rholio’r Haf ar agor o 10am tan 9pm bob dydd dros gyfnod y digwyddiad.
Cefnogir y digwyddiad gan Admiral, Diogelwch Ffyrdd, Coleg Gwyr, The Wave a Sain Abertawe.
Ewch i www.gwylbaeabertawe.co.uk am fwy o wybodaeth neu lawrlwythwch app yr wyl ar Apple neu Android.