fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Luminites yn barod ar gyfer Yn Fyw ym Mharc Singleton


C 28th June 2013

Fe’u gelwir yn fersiwn Brydeinig o’r Black Eyed Peas – nawr mae’r Luminites yn barod i berfformio yn Abertawe

Luminites_1

The Luminites

Bydd y band, a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain’s Got Talent yn gynharach y mis hwn, yn perfformio fel y brif act yn nigwyddiad Yn Fyw ym Mharc Singleton ddydd Sul (30 Mehefin).

 

Mae’r digwyddiad, a drefnir gan Gyngor Abertawe, yn rhan o ?yl Bae Abertawe.

Hefyd bydd dau o fandiau teyrnged gorau’r DU yn perfformio sef Take That 2 a The Monophonics. Mae Back for Good, Never Forget ac A Thousand Trees ymysg y caneuon poblogaidd a fydd yn cael eu canu.

Bydd pabell fawr yno ar y dydd ar gyfer y bandiau a’r torfeydd.

Bydd y gatiau’n agor am 2pm gyda cherddoriaeth fyw’n dechrau am 4pm.

Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae effaith sioeau talent ar y teledu dros y ddeng mlynedd diwethaf wedi bod yn enfawr. Mae rhaglenni fel The X Factor a Britain’s Got Talent wedi creu sêr sydd wedi concro’r DU a thu hwnt, ac roedd llu o fwrlwm am The Luminites pan wnaethant berfformio’n ddiweddar i Simon Cowell a’r beirniaid eraill. Mae’n wych y byddant yn perfformio yn Abertawe yn yr wythnosau nesaf ar ôl ennill miloedd o ddilynwyr newydd ledled y wlad.

“Bydd y cyfuniad o sêr newydd, bandiau teyrnged a bandiau lleol yn gwneud Yn Fyw ym Mharc Singleton yn gyngerdd i’w gofio.”

Mae Soul Jam, The Fevers a Like a Lion yn rhai o’r grwpiau lleol sy’n cymryd rhan.

Mae tocynnau ar gyfer Yn Fyw ym Mharc Singleton ar werth nawr. Y pris yw £8 (Safonol), £6.50 (Consesiynau) a £5 (Pasbort i Hamdden).

Gallwch archebu eich tocynnau drwy fynd i www.gwylbaeabertawe.co.uk neu ffonio 01792 637300. Mae tocynnau hefyd ar gael gan Ganolfan Croeso Abertawe ar Stryd Plymouth a Derricks Music ar Stryd Rhydychen.

Cefnogir Yn Fyw ym Mharc Singleton gan The Wave a Sain Abertawe.