fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Dydd Llun yw'r dyddiad cau i gofrestru ar gyfer Abertawe yn ei Blodau


C 28th June 2013

Ychydig ddiwrnodau’n unig sydd gan drigolion, cymunedau a busnesau sy’n dwlu ar arddio i gofrestru ar gyfer cystadleuaeth Abertawe yn ei blodau

IMG_1411_1

Clyne Gardens, Swansea Bay

Mae’n rhaid cwblhau ac anfon ffurflenni cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth flynyddol erbyn 5pm ddydd Llun, 1 Gorffennaf fan bellaf.

 

Mae’r gystadleuaeth, yn ei 21ain flwyddyn, yn cael ei chynnal gan grwp gwirfoddol gyda help gan dîm datblygu parciau Cyngor Abertawe.

Mae’r 15 categori yn cynnwys yr adeiladau busnes mawr gorau, yr ardd flaen orau, y dafarn neu’r caffi neu’r bwyty gorau. Mae categorïau’r garddwr gwyrdd gorau a’r ardd orau sydd ar agor i elusennau yn newydd ar gyfer 2013.

Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae’r gystadleuaeth hon yn creu môr o liw yn Abertawe bob haf ac mae’n arwain at gystadlu iach ymhlith trigolion a busnesau mewn cymunedau ar draws y ddinas.

“Rydym yn ffodus iawn i fyw yn un o’r ardaloedd mwyaf trawiadol yn y DU ond mae’r cynllun hwn yn helpu i ategu’r golygfeydd naturiol arobryn y mae cyfle gennym i’w mwynhau bob dydd.

“Gorau po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd heb benderfynu i fynd amdani a llenwi eu ffurflenni. Gall garddio roi llawer iawn o foddhad ac mae’n helpu i wella golwg cymdogaethau cyfan hefyd.

Ewch i http://www.swansea.gov.uk/swanseainbloom i gael mwy o wybodaeth neu i lawrlwytho ffurflen gofrestru. Mae copïau caled o’r ffurflenni cofrestru ar gael o Ganolfan Croeso Abertawe yn Stryd Plymouth

Bydd y beirniaid wrth eu gwaith yn ystod wythnos olaf mis Gorffennaf cyn llunio rhestr fer o gynigion ar gyfer pob categori a’u gwahodd i seremoni gyflwyno ym mis Awst.