fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Biniau newydd i chi allu ailgylchu o le i le


C 17th June 2013

Bydd trigolion y ddinas sy’n frwd dros ailgylchu yn cael y cyfle i ailgylchu wrth fynd o le i le ar ôl cyflwyno amrywiaeth o finiau sbwriel newydd yn Abertawe

osprey-75pix-20050225_1

Council Logo

Bydd y cyngor yn cyflwyno biniau pedwarplyg a biniau deublyg dros y misoedd nesaf fel rhan o ymgyrch i annog trigolion i gael gwared ar eu deunyddiau i’w hailgylchu mewn modd sydd yr un mor ystyriol pan fyddant yn mynd o le i le ag y maent gartref.

 

Bydd gan y biniau pedwarplyg ar y stryd logos pinc a gwyrdd a bydd logo du ar gyfer deunyddiau na chânt eu hailgylchu i gyfateb i’r sachau pinc, gwyrdd a du y mae trigolion wedi dod i arfer â’u defnyddio gartref.

Mewn rhannau o’r ddinas lle nad oes digon o le ar gyfer y biniau mwy, bydd rhai llai yn cynnig y dewis rhwng deunydd i’w ailgylchu a’r hyn na chaiff ei ailgylchu.

Meddai June Burtonshaw, Aelod y Cabinet dros Leoedd, “Bydd y biniau newydd yn golygu y gall trigolion ailgylchu wrth fynd o le i le a helpu hybu cyfraddau ailgylchu ar draws y ddinas.

“Mae’r ddinas wedi bod yn gweithredu’r system wythnos binc-wythnos werdd ers dwy flynedd erbyn hyn ac rwy’n credu bod y rhan fwyaf o bobl wedi dod i arfer â hi a byddant yn meddwl pam na allant wneud yr un peth wrth deithio o gwmpas.

“Ar hyn o bryd, mae symiau mawr o wastraff y gellir ei ailgylchu, megis papurau newydd, poteli a chaniau mewn biniau unigol pan fo pobl yn mynd o le i le, yn mynd yn syth i finiau sbwriel cyffredinol ac yn aml dyna’r sefyllfa p’un a ydych allan yn Abertawe neu mewn unrhyw dref neu ddinas bwysig arall.

“Bydd y biniau sbwriel newydd rydym yn bwriadu eu cyflwyno yn ein gwneud yn haws i ailgylchu wrth fynd o le i le trwy annog trigolion i wneud yr un peth ag y maent yn ei wneud gartref gyda’n system sefydledig, trwy ddefnyddio’r biniau newydd yn yr un ffordd â’r system ailgylchu wythnos binc-wythnos werdd.”

Ar hyn o bryd, canran ailgylchu Abertawe yw 48%, ychydig yn is na tharged Llywodraeth Cymru o 52% ar gyfer 2013. Bydd cynghorau nad ydynt yn cyflawni’r targed yn wynebu dirwyon a chostau tirlenwi drutach.

Fel rhan o’r cynllun, bydd biniau pedwarplyg dur gwrthstaen ledled canol y ddinas. Bydd biniau pedwarplyg glas ar gael mewn ardaloedd eraill. Mewn mannau lle nad oes digon o le ar gyfer biniau pedwarplyg, caiff biniau deublyg eu gosod yn eu lle.

Mae £50,000 wedi’i neilltuo ar gyfer y prosiect a disgwylir i’r set gyntaf o finiau gael ei chyflwyno’n ddiweddarach y mis hwn. Cânt eu gosod yng nghanol pob tref ac mewn mannau prysur eraill ledled Abertawe.