fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Eich cyfle i gwrdd â sêr rhaglen deledu Marchnad Abertawe


C 14th June 2013

Mae preswylwyr y ddinas bob amser wedi gwybod mai Marchnad Abertawe yw trysor canol y ddinas – ond nawr mae Cymru gyfan wedi bod yn clywed hefyd

Swansea_Market_1

Swansea Market logo

Bydd pennod olaf cyfres ddogfen am fywyd lliwgar y tirnod yn Abertawe’n cael ei darlledu gan BBC 1 Cymru nos Wener (14 Mehefin).

 

Ond mae’r rhaglen eisoes wedi bod yn boblogaidd gyda gwylwyr sy’n gweithredu ar yr hyn maent wedi’i weld ac yn darganfod drostynt eu hunain yr hyn sydd ar gael yn y farchnad.

Mae masnachwyr y farchnad yn dweud y bu cynnydd mawr yn nifer y bobl sy’n ymweld â’r farchnad dan orchudd fwyaf yng Nghymru ers darlledwyd y sioe gyntaf y mis diwethaf.

Ac maent nawr yn gobeithio y bydd pobl yn gweld mwy ohoni ar ôl y rhaglen olaf yn y gyfres.

Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae preswylwyr bob amser wedi gwybod bod masnachwyr a staff Marchnad Abertawe’n sêr ac nawr mae gweddill Cymru’n darganfod hynny hefyd.

“Mae Cyngor Abertawe’n buddsoddi mwy na £1m wrth wella’r farchnad, gan gynnwys to newydd, felly mae’n wych bod degau o filoedd o bobl ledled y wlad yn cael gwybod pam mae hyn yn golygu cymaint i ni – ac mae llawer ohonynt yn dod i ymweld.”

Meddai Sandy Ellis, sy’n rheoli Sandy’s Lunchbox yn y farchnad gyda’i phartner Robert Bartlett, “Bu cynnydd dramatig yn nifer yr ymwelwyr â’r farchnad ers i’r gyfres gael ei darlledu.

“Mae ymwelwyr yn dweud wrthyf eu bod wedi gwylio’r rhaglen a’u bod yn dod i gael cip a phrynu’r pethau maent wedi’u gweld ar y teledu. Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn ac mae llawer o bobl yn dweud nad ydynt yn sylweddoli mor galed mae’r masnachwyr yn gweithio.”

Meddai Lisa Wells, Rheolwr Canol y Ddinas Cyngor Abertawe, “Bu bwrlwm mawr yn y lle ers i’r rhaglen ddechrau.

“Mae Abertawe’n arbennig o falch o’i marchnad ac rydym yn gwerthfawrogi’r amrywiaeth enfawr o stondinau, ansawdd y cynnyrch lleol a’r croeso cynnes yma. Mae’n fendigedig bod pobl nawr yn ei gweld ar y teledu ac yn dod i ymweld a’i phrofi drostynt eu hunain.

“Fel un o’r ysgogwyr economaidd yng nghanol ein dinas, mae hefyd yn hynod galonogol croesawu siopwyr newydd i’r farchnad a gweld pobl yn cefnogi eu masnachwyr lleol.”

Bydd masnachwyr yn gorffen tymor ‘Marchnad Abertawe’ gyda digwyddiad amser cinio yn y farchnad ddydd Sadwrn 15 Mehefin lle caiff ymwelwyr gwrdd â’u hoff seren o Farchnad Abertawe a mwynhau samplau o’r danteithion coginio sydd ar gael, gan gynnwys tagine Morocaidd a phice ar y maen.

Ewch i http://www.swanseaindoormarket.co.uk i gael mwy o wybodaeth am y farchnad