Byddwn yn dathlu 60 mlynedd ers ysgrifennu Under Milk Wood mewn parc yn Abertawe a wnaeth ysbrydoli rhai o weithiau Dylan Thomas.
Bydd rhai o blant Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn y ddinas yn perfformio’r ddrama ym Mharc Cwmdoncyn ddydd Mercher a dydd Iau 3 a 4 Gorffennaf.
Mae’r perfformiadau sydd am ddim ymysg sawl digwyddiad a gynhelir yn y parc cyn yr agoriad mawreddog ym mis Medi i ddathlu cwblhau prosiect adnewyddu sylweddol.
Ariennir gwaith gweddnewid y parc gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Prosiect Twristiaeth Gynaliadwy Llywodraeth Cymru, gyda chymorth Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cyngor Abertawe a Chyfeillion Parc Cwmdoncyn.
Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae Parc Cwmdoncyn o fewn tafliad carreg i gartref plentyndod Dylan yn Rhodfa Cwmdoncyn gan helpu i ysbrydoli rhai o’i weithiau.
“Dyma pam ei bod hi’n briodol dathlu 60 mlynedd o Under Milk Wood drwy gyfres o berfformiadau yn y parc a fydd yn helpu i gyflwyno gweithiau Dylan i genhedlaeth arall o bobl ifanc.
“Mae hefyd yn briodol y bydd adnewyddu’r parc wedi’i gwblhau ar gyfer y dathliadau i goffáu 100 mlwyddiant genediaeth Dylan y flwyddyn nesaf.”
Mae DT100 yn ?yl sy’n cael llawer o sylw i nodi canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn 2014. Mae Llywodraeth Cymru yn arwain y gwaith i gydlynu gweithgareddau yng Nghymru, ynghyd â’i phartneriaid – Cyngor Celfyddydau Cymru; y Cyngor Prydeinig; Cyngor Sir Gâr; Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Abertawe a Cadw. Nod yr holl bartneriaid yw sicrhau bod yr ?yl yn cyflwyno manteision addysgol, diwylliannol a thwristiaeth cyn, yn ystod ac ar ôl 2014.
Mae agweddau eraill ar y cynllun yn cynnwys gwella cysgodfa Dylan Thomas, adfer ffynnon d?r yfed Dylan Thomas ac adnewyddu llwybrau, rheiliau a meinciau. Mae ystafell de a fydd yn ail-greu ysbryd creadigol y 1930au yn Abertawe hefyd wedi agor ym mhafiliwn bowls y parc sydd wedi’i adnewyddu.
Mae digwyddiadau eraill sydd ar ddod i’r parc yn cynnwys noson ystlumod a gwyfynod nos Wener 14 Mehefin a chyfres o weithdai Ffotograffiaeth Dylan Thomas.
Ewch i www.cwmdonkinpark.co.uk i weld llyfryn sy’n nodi manylion yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar ddod yn y parc. Mae’r llyfryn hefyd ar gael gan Ganolfan Croeso Abertawe ar Stryd Plymouth.
Ewch i www.ticketsource.co.uk/cwmdonkin i archebu tocynnau ar gyfer Under Milk Wood