fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Cytundeb i roi bywyd newydd i'r arsyllfa hanesyddol


C 4th June 2013

Bydd adeilad eiconig yn Abertawe y tynnwyd un o ffotograffau cynharaf o’r lleuad oddi yno gan wyddonydd arloesol, yn cael bywyd newydd cyn bo hir

Observatory

Penllergare observatory

Mae Cyngor Abertawe wedi llofnodi prydles 25 mlynedd gydag Ymddiriedolaeth Penllergaer ar gyfer yr arsyllfa gyhydeddol a’r labordy o’r 19ain ganrif yng Nghoed Cwm Penllergaer a fu unwaith yn ganolfan leol i syllu ar y sêr.

 

Adeiladwyd yr adeilad hanesyddol, sydd hefyd yn heneb gofrestredig, ym 1846, ac yno y cedwid telesgop ar gyfer John Dillwyn Llewelyn, y seryddwr a’r ffotograffydd arloesol yn y cyfnod. O’r arsyllfa, byddai John a’i ferch, Thereza, yn arbrofi drwy dynnu lluniau o’r lleuad.

Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Llofnodom gytundeb ag Ymddiriedolaeth Penllergaer fis diwethaf i weithio mewn partneriaeth agosach nag erioed â nhw i ddiogelu, adfer ac adfywio tirwedd naturiol a diwylliannol coed trawiadol Cwm Penllergaer. Mae’r cytundeb prydles ar gyfer adeilad yr arsyllfa yn dangos bod cynnydd sylweddol eisoes wedi’i wneud er lles y miloedd o bobl sy’n ymweld â’r coed bob blwyddyn.

“Mae hanes cyfoethog a hynod ddiddorol i adeilad yr arsyllfa ac mae ei adfer yn rhan o’r hyn a fydd yn ddyfodol cyffrous i fan harddwch poblogaidd iawn.”

Mae prosiect adfer gwerth £2.9 miliwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yng Nghoed Cwm Penllergaer gydag arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’r rhaglen Parciau i Bobl. Mae Cyngor Abertawe wedi cyfrannu grant ar gyfer y gwaith ar yr arsyllfa.

Caiff yr arsyllfa ei hatgyweirio a’i hadfer dros y 18 mis nesaf. Sicrheir hefyd y bydd yn hygyrch, ynghyd ag atyniadau eraill yn y coed fel y gerddi teras, y llyn uchaf, y rhaeadr a’r hen bont gerrig o’r enw pont Llywelyn.

Meddai Terry Jones, cadeirydd Ymddiriedolaeth Penllergaer, “Yr arsyllfa yw etifeddiaeth wyddonol John Dillwyn Llewelyn. Mae wedi goroesi dros hanner canrif o esgeuluso ynghyd â’r ardd dirwedd ddyluniedig hardd yn y cwm isod. Rydym yn edrych ymlaen at adfer yr adeiledd hanesyddol bwysig hwn i gyflwr da a’i gadw er budd y cyhoedd.”

Mae maes parcio coetirol a chiosg yn cael eu hadeiladu hefyd, y bwriedir iddynt fod yn barod erbyn yr haf. Caiff tyrbin micro-hydro ei osod i gynhyrchu trydan a sicrhau dyfodol cynaliadwy i Goed Cwm Penllergaer.

Roedd Ystâd Penllergaer ar ei mwyaf ffyniannus yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd ei chreawdwr, John Dillwyn Llewellyn, yn enwog am ei arbrofion gwyddonol a’i ffotograffiaeth arloesol ac am ddylunio tirweddau a garddwriaeth