fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Yr Elyrch a'r Gweilch yn cefnogi cais dinas ddiwylliant


C 31st May 2013

Mae arweinwyr chwaraeon wedi cymeradwyo cais Bae Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2017

Foreshore big

Swansea Bay

Mae Huw Jenkins, Cadeirydd yr Elyrch, a Geoff Atherton, Cadeirydd y Gweilch, wedi cymeradwyo Cyngor Abertawe am gyflwyno’r cais yn ffurfiol mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Gâr.

 

Mae Michael Sheen, y seren Hollywood a Russell T Davies, y dramodydd adnabyddus, eisoes wedi cefnogi’r cais.

Caiff ceisiadau 2017 eu hystyried nawr gan banel ymgynghorol annibynnol cyn cyhoeddi rhestr fer y mis nesaf.

Meddai Huw Jenkins, “Mae llwyddiant yr Elyrch yn dangos yr hyn sy’n digwydd pan fyddwn yn cael cyfle i wireddu ein breuddwydion – mae ein hymagwedd paid ag anobeithio Jac ynghyd â’n doniau a’n gweledigaeth wedi cyfrannu at ein sefyllfa heddiw. Ein cymuned sy’n diffinio ein diwylliant – rydym yn rhan o’u bywydau bob dydd ac maen nhw’n rhan o’n bywydau ni, ac mae ein stadiwm yng nghanol y rhanbarth gan bontio’r dwyrain a’r gorllewin ac yn uno pobl. Bydd y clwb yn cefnogi’r cais i’r eithaf i helpu ein diwylliant a rennir dyfu a ffynnu ar draws Bae Abertawe.”

Os bydd cais Bae Abertawe yn llwyddiannus, mae rhai o syniadau’r rhaglen yn cynnwys G?yl Pete Ham ar gyfer cerddorion heb reolwr a labordy hanes uwch-dechnoleg ar safle hanesyddol Gwaith Copr yr Hafod. Cynigir hefyd y gallai arweinwyr y rhanbarth weithio gyda rheolwyr rygbi Llewod Prydain i gyhoeddi carfan 2017 ym Mae Abertawe.

Meddai Geoff Atherton, “Mae rygbi’r Gweilch yn canolbwyntio’n gryf ar gysylltu â’n cymunedau, ac yn enwedig gyda phlant a phobl ifanc, drwy ein rhaglenni cynnwys drwy chwaraeon. Rydym yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â chais Bae Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2017 ac rydym yn edrych ymlaen at ehangu ein rhaglenni cynnwys y gymuned yn unol â’r fenter.”

Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae chwaraeon wrth wraidd diwylliant Bae Abertawe ac mae’n ein helpu i’n diffinio fel cymuned. Dyma pam mae’r cais gwych hwn wedi’i gymeradwyo gan ddau glwb pêl-droed a rygbi blaenllaw’r rhanbarth. Mae’r Elyrch a’r Gweill wedi gwneud gwaith rhagorol wrth gynyddu proffil Bae Abertawe ym mhedwar ban byd, ond byddai ennill statws Dinas Diwylliant y DU 2017 yn helpu i roi ein rhanbarth cartref ar y map rhyngwladol a denu hyd yn oed mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol.”

Gweinyddir y fenter Dinas Diwylliant gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon. Mae Bae Abertawe yn cystadlu yn erbyn dinasoedd megis Caerl?r, Plymouth a Dundee.