Bydd cerddoriaeth fyw yn rhan o’r hwyl pan fydd y Cinio Mawr yn dychwelyd i ganol dinas Abertawe y penwythnos hwn
Mae Synergy Dance, Gypsy Jazz a’r Dixielanders ymhlith yr actau a fydd ar y llwyfan yn Sgwâr y Castell ddydd Sul (2 Mehefin) o 11am i 3pm i helpu i nodi’r dathliadau cenedlaethol.
Mae’r Cinio Mawr yn syniad sy’n deillio o Brosiect Eden a’i fwriad o gael cymaint o bobl â phosib ar draws y DU i gael cinio gyda’i gilydd fel gweithred syml o gymuned, cyfeillgarwch a hwyl.
Anogir pobl a hoffai fynd i Sgwâr y Castell i greu picnic a dod â’u teuluoedd a’u ffrindiau hefyd. Bydd paentio wynebau a chreu modelau bal?n ar gael i blant a bydd byrddau a chadeiriau ar gael am ddim.
Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen ddigwyddiadau haf G?yl Bae Abertawe a drefnwyd gan Gyngor Abertawe.
Dywedodd y Cyng. Nick Bradley, Aelod y Cabinet dros Adfywio, “Mae digwyddiadau fel rhain yn wych ar gyfer creu ysbryd cymunedol. Bydd digwyddiadau tebyg yn digwydd ar draws y DU, felly dyma gyfle i bobl Abertawe ymuno yn y dathliadau cenedlaethol.
“Yr unig beth sydd yn rhaid i chi ei wneud er mwyn cymryd rhan yw mynd yno gyda phicnic a mwynhau’r adloniant byw sydd wedi’i drefnu. O gerddoriaeth jazz i ddawnsio stryd, bydd rhywbeth i bawb ei fwynhau.”
Ar ôl i’r adloniant ddod i ben, bydd cyfle i bobl wylio’r ffilm Disney gwych ‘Wreck it Ralph’ ar y Sgrîn Fawr o 3.15pm.
Ewch i http://www.swanseabayfestival.co.uk neu ffoniwch 01792 635428 am fwy o wybodaeth.