fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Abertawe i ddathlu trigainmlwyddiant Coroni'r Frenhines mewn gwasanaeth eglwysig


C 31st May 2013

Bydd Arglwydd Faer Abertawe ymhlith y gwesteion mewn gwasanaeth eglwysig arbennig fis nesaf i ddathlu trigainmlwyddiant coroni’r Frenhines

osprey-75pix-2005022511

swansea council logo

Bydd yr Arglwydd Faer, y Cyng. June Stanton, yn ymuno yn y digwyddiad dathlu ar 9 Mehefin am 2.30pm yn eglwys y Santes Fair yn Abertawe sy’n cael ei drefnu gan Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Mr D. Byron Lewis.

 

Meddai’r Cynghorydd Stanton, “Y Frenhines Elizabeth yw llysgennad pennaf a mwyaf adnabyddus y wlad, sy’n cael ei hadnabod ar unwaith a’i hedmygu ar draws y byd.

“Mae’n fraint cael y cyfle i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn i gydnabod y Coroni a ddigwyddodd 60 mlynedd yn ôl. Mae’n ddigwyddiad cyhoeddus ac mae croeso i bawb ddod ar y dydd.”

Meddai’r Arglwydd Raglaw, “Roedd Jiwbilî Ddeimwnt y llynedd yn dathlu 60 mlynedd ers esgyniad Ei Mawrhydi’r Frenhines i’r Orsedd. Eleni, rydym yn nodi 60 mlynedd ers coroni ei Mawrhydi’n Frenhines.

“Bydd Gwasanaeth Cenedlaethol yn Abaty Westminster ar 4 Mehefin. Bydd gwasanaethau hefyd mewn siroedd ledled Prydain, gan gynnwys y gwasanaeth yn Eglwys y Santes Fair ar gyfer Gorllewin Morgannwg.

“Mae hwn yn wasanaeth cyhoeddus ac mae croeso i bawb. Y gobaith yw y bydd cynrychiolwyr, aelodau a ffrindiau’r holl sefydliadau yn y sir yn bresennol hefyd oherwydd bwriedir i’r gwasanaeth gynrychioli trawstoriad eang o fywyd yn yr ardal.”