fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Angen helwyr hanes ar gyfer cloddfa archaeolegol


C 23rd May 2013

Mae angen helwyr hanes i gymryd rhan mewn cloddfa archaeolegol ar safle gwaith copr byd-enwog yr Hafod-Morfa

store_hafod as mill normal

Gwaith Copr yr Hafod

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent, ar y cyd â Chyngor Abertawe a Phrifysgol Abertawe, yn cynnal cloddfa gymunedol ar y safle rhwng dydd Mercher 29 Mai a dydd Mawrth 11 Mehefin.

 

Bydd arbenigwyr yn datgelu basn y gamlas o ddechrau’r 19eg Ganrif lle bu badau gynt yn dadlwytho glo, wedi’i gludo o’r pyllau glo, yn uniongyrchol i’r gweithfeydd copr.

Cafodd basn y gamlas ei lenwi ddechrau’r 20fed Ganrif a bellach, mae wedi diflannu o’r golwg yn llwyr.

Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Rydym yn gwneud cynnydd gwych, ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, ar gynlluniau i gadw a dathlu safle hanesyddol gwaith copr yr Hafod-Morfa.

“Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar gynllun a fydd yn arwain, yn y pendraw, at gyrchfan defnydd cymysg yn seiliedig ar dreftadaeth, ond mae’n bwysig ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn nawr i ddatgelu rhywfaint o hanes cudd y safle er mwyn gallu rhannu ei stori â chenedlaethau’r dyfodol.

“Bydd y digwyddiad cloddio, sy’n dechrau ar y safle’r ar ddiwedd y mis, yn caniatáu i bobl weithio dan arweiniad archaeolegwyr arbenigol a chloddio ychydig o hanes cyfoethog eu cymuned eu hunain. Dyna pam rwy’n annog pobl o ardaloedd yr Hafod a Chwm Tawe’n enwedig i gysylltu â ni os hoffen nhw gymryd rhan.”

Mae Cyngor Abertawe wedi llofnodi cytundeb 15 mlynedd gyda Phrifysgol Abertawe sy’n golygu y bydd arbenigwyr o’r ddau sefydliad yn cydweithio ar brosiect a fydd yn sicrhau bod y safle’n cael ei ddefnyddio mewn modd cynaliadwy unwaith eto.

Nod y prosiect yw creu cyrchfan newydd mewn amgylchedd hanesyddol ar safle a fyddai’n creu safleoedd busnes ac addysgol, gwesty ac ardaloedd preswyl.

Yn sgîl derbyn arian gan raglen Ardal Adfywio Llywodraeth Cymru, cynllun Grant Twristiaeth Treftadaeth Cadw a Chyngor Abertawe, mae arbenigwyr adfywio Groundwork Penybont-ar-Ogwr a Chastell-nedd-Port Talbot bellach wedi dechrau rhan gyntaf y gwaith ar y safle. Mae hyn yn cynnwys clirio llystyfiant a oedd wedi gordyfu er mwyn gwneud yr adeiladau presennol yn fwy gweladwy, sefydlogi nodweddion allweddol a gosod arwyddion a llwybrau cerdded i ymwelwyr.

E-bostiwch Jan Bailey yn janet@ggat.org.uk neu ffoniwch 01792 634236 os ydych yn h?n na 18 oed ac mae gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn y gloddfa gymunedol.