fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Bae Rhosili mewn hysbyseb fawr newydd i M&S


C 21st May 2013

Mae Bae Rhosili trawiadol yn rhan o hysbyseb fawr y mae miliynau o Brydeinwyr yn ei gweld bob dydd.

rhossili_parascending-2_1

Rhossili Bay – Britain’s best beach 2013

Y man harddwch byd-enwog ar Benrhyn Gwyr yw lleoliad y golygfeydd picnic yn hysbyseb fwyd ddiweddaraf Marks and Spencer.

 

Mae’r hysbyseb, o’r enw ‘Make Today Delicious’, yn cael ei dangos ar amrywiaeth o sianeli, gan helpu i gyrraedd cynulleidfa enfawr ar draws y DU. Mae tirnod adnabyddus Pen Pyrod i’w weld yn amlwg yn yr hysbyseb 40 eiliad, yn enwedig wrth ddiflannu tua’r diwedd.

Mae Cyngor Abertawe’n dweud bod yr hysbyseb yn fwy o newyddion da ar gyfer codi proffil Bae Abertawe fel cyrchfan ymwelwyr.

Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae hysbysebion bwyd M&S yn adnabyddus am eu hansawdd ac mae’n dangos apêl Bae Rhosili y byddai’r fath fanwerthwr yn dewis ffilmio yno.

“Mae’r hysbysebion hyn yn cael eu gweld gan filiynau o bobl ledled y DU, ond mae eu hargaeledd ar-lein yn golygu y bydd llawer o bobl o bob rhan o’r byd yn eu gweld hefyd. Mae hyn yn helpu i roi sylw cadarnhaol aruthrol i Fae Abertawe a mannau harddwch fel Rhosili a Llangynydd a fydd yn denu mwy fyth o ymwelwyr yn y dyfodol, gan roi hwb i’r economi leol.

“Gyda golygfeydd fel Bae Rhosili ar ein trothwy, nid yw’n fawr o syndod bod Bae Abertawe’n ennill gwobr ar ôl gwobr am olygfeydd o’r radd flaenaf. Dyma pam ein bod yn defnyddio mannau harddwch trawiadol ym Mae Abertawe yn ein hymgyrchoedd marchnata awyr agored.”

Hefyd, enwyd Bae Rhosili’n draeth gorau Prydain, y trydydd gorau yn Ewrop a’r degfed gorau yn y byd yng Ngwobrau Dewis Teithwyr TripAdvisor yn gynharach eleni.

Wedi’i enwi gan bapur newydd The Independent fel “archfodel traethau Prydain”, enillodd y man harddwch Wobrau Traeth Prydain Fawr hefyd yn 2010. Ac yn 2009 a 2010, enillodd Bae Rhosili wobrau am fod y man picnic gorau yng Nghymru a’r DU.

Ewch i https://www.visitswanseabay.com i gael mwy o wybodaeth am draethau prydferth Gwyr.