fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Cyffro'r sinema yng Nghastell Ystumllwynarth y penwythnos yma


C 10th May 2013

Bydd ffilmiau cyffrous yn cyfuno â golygfeydd hanesyddol cyfoethog y penwythnos yma fel rhan o epig dwy noson yng Nghastell Ystumllwynarth yn Abertawe

oystermouth-1_1

Oystermouth Castle

Caiff Skyfall, y ffilm James Bond ddiweddaraf, ei dangos yn nhiroedd y castell nos Wener (10 Mai) i’w dilyn gan Les Misérables, gyda Russell Crowe ac Anne Hathaway, nos Sadwrn (11 Mai).

 

Caiff y ffilmiau, sy’n dechrau am 8.30pm, eu dangos ar sgrîn fawr.

Mae Cyngor Abertawe wedi trefnu’r dangosiadau arbennig fel rhan o wyl Bae Abertawe.

Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae sinema awyr agored yn Abertawe dros yr haf yn syniad gwych. Mae’r digwyddiadau hyn yn atgynhyrchu’n awyrgylch o ffilmiau ‘gyrru i mewn’ yn UDA a ffilmiau sy’n cael eu dangos mewn parciau yn Llundain sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus ers lawer o flynyddoedd.

“Mae Skyfall a Les Misérables yn ffilmiau epig hynod lwyddiannus a fydd yn edrych ac yn swnio’n wych ar sgrîn fawr gydag adfeilion castell hanesyddol Ystumllwynarth yn gefndir trawiadol iddynt.

“Gan ddibynnu ar y tywydd, bydd y rhain yn ddau ddigwyddiad gwych. Byddant hefyd yn rhoi blas ar yr hyn sydd yn yr arfaeth i bobl o bob oed a diddordeb yn ddiweddarach yn yr haf fel rhan o wyl Bae Abertawe.”

Mae Skyfall, y 23ain ffilm yng nghyfres James Bond, yn cynnwys Daniel Craig yn y brif rôl. Wedi’i chyfarwyddo gan Sam Mendes, mae’r ffilm sydd wedi ennill clod y beirniaid hefyd yn cynnwys Judy Dench a Javier Bardem.

Mae Les Misérables yn fersiwn sgrîn o nofel enwog y 19eg ganrif gan Victor Hugo sydd wedi bod yn ddrama hynod lwyddiannus ers blynyddoedd. Mae hefyd yn cynnwys Hugh Jackman, Amanda Seyfried ac Eddie Redmayne.

Bydd popcorn ar gael i helpu i ail-greu profiad y sinema ymhellach a bydd cyfle i ymwelwyr logi cadeiriau cynfas.

Ewch i http://www.swanseabayfestival.co.uk i gael gwybodaeth am docynnau ymlaen llaw neu ffoniwch 01792 637300. Hefyd gall selogion y sinema brynu tocynnau wrth y gât.

Cefnogir sinema awyr agored trwy garedigrwydd Coleg Gwyr, The Wave a Sain Abertawe.