Bydd Abertawe yn mynd yn ôl i’r 1980au yn ddiweddarach yr haf hwn pan fydd llawr sglefrolio enfawr yn cyrraedd y ddinas
Bydd yn rhan o atyniad retro newydd o’r enw Rholio’r Haf a gaiff ei sefydlu ym Mharc yr Amgueddfa y ddinas o ddydd Mercher 14 Awst tan ddydd Mawrth 27 Awst.
Bydd Cylch Rholio 30 metr x 20 metr Admiral hefyd yn cynnwys bwth lle gall pobl hurio esgidiau rholio, helmedau, padiau penelin, padiau pen-glin a bandiau chwysu.
Mae Rholio’r Haf yn rhan o wyl Bae Abertawe sy’n cael ei threfnu gan Gyngor Abertawe.
Bydd traciau disgo o’r 1970au a’r 1980au yn seinio yn y cefndir ac yn ychwanegu at deimlad atgofus y digwyddiad pan fyddwch yn camu ar y llawr.
Bydd traeth artiffisial hefyd yn cael ei sefydlu, gyda bwcedi, rhawiau, cadeiriau cynfas a byrddau picnic.
Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae hwn yn syniad gwych a fydd yn ail-greu hwyl a theimlad Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn yr un lleoliad yn ystod misoedd yr haf. Bydd Rholio’r Haf yn llawer o hwyl i blant ac i bawb sy’n dymuno troi’r cloc yn ôl ac ailafael yn eu ieuenctid.
“Ond mae digwyddiadau fel y rhain hefyd yn bwysig i fasnachwyr lleol am eu bod yn denu miloedd o bobl i ganol y ddinas a’r Ardal Forol.
“Mae hwn yn un o nifer o ddigwyddiadau i ddod dros fisoedd yr haf sy’n rhan o wyl Bae Abertawe. Mae amrywiaeth yr hyn sy’n cael ei gynllunio’n golygu y bydd rhywbeth i bob oedran a diddordeb.”
Mae’r llawr yn cael ei noddi gan y cwmni yswiriant mawr Admiral a meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Admiral, Sue Longthorn: “Mae’n bleser gennym noddi Llawr Rholio’r Haf Admiral eleni. Mae cefnogi digwyddiadau yn ein cymunedau’n bwysig iawn i ni ac mae’r cyfle i fod yn rhan o ddigwyddiad haf a gaeaf gyda Llyn Iâ Admiral yn gyffrous.
“Rwy’n siwr y bydd llawer o’n staff yn gwisgo’u hesgidiau rholio i ymuno â hwyl yr haf.”
Bydd ffair hefyd yn cael ei sefydlu yn Rholio’r Haf yn ogystal ag adloniant i blant, bwyd a diod.
Bydd Rholio’r Haf ar agor o 10am tan 9pm bob dydd dros gyfnod y digwyddiad.
Ymhlith digwyddiadau eraill sy’n cael eu cynllunio ar gyfer Gwyl Bae Abertawe mae Yn Fyw ym Mharc Singleton ar 30 Mehefin ac ail-greu brwydr ganoloesol yng Nghastell Ystumllwynarth ddydd Sadwrn Awst 10 a dydd Sul Awst 11.
Ewch i http://www.swanseabayfestival.co.uk am fwy o wybodaeth.