fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Gwaith yn dechrau ar y panel gwylio gwydr ar y promenâd


C 3rd May 2013

Mae gwaith wedi dechrau ar banel gwydr newydd a fydd yn rhoi golygfeydd trawiadol o Fae Abertawe o’r promenâd

Image_1

360 Beach & Watersports

Mae’r panel 25 metr o hyd yn disodli rhan o wal y promenâd y tu allan i’r Ganolfan Chwaraeon Traeth a Dwr 360 gyferbyn â San Helen.

 

Mae rhan o wal wedi’i symud bellach ac mae’r ffens ddiogelwch wedi’i chodi. Y cam nesaf fydd gosod plinth concrit cyn bod y gwydr arbenigol yn cael ei osod erbyn dechrau mis Mehefin.

Mae’r panel gwydr yn un o amrywiaeth o welliannau sy’n cael eu cyflwyno yn y ganolfan, a agorodd y llynedd. Mae’r ganolfan yn cael ei rhedeg gan Bay Sport Cyf – partneriaeth rhwng Bay Sports Cyf a Phrifysgol Abertawe.

Ymysg y gwelliannau eraill mae gosod patiola codadwy pob tywydd ac ehangu mynedfa’r maes parcio.

Mae’r gwelliannau yn cael eu hariannu ar ôl i Gyngor Abertawe a Bay Sport Cyf wneud cais llwyddiannus i Gynllun Cefnogi Buddsoddi Twristiaeth Croeso Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Rydym yn ffodus iawn yn Abertawe ein bod yn byw mor agos at fae a phromenâd trawiadol. Ceir golygfeydd o’r radd flaenaf o lan y môr, ond awgrymodd adborth gan rai cwsmeriaid y byddai’r Ganolfan Chwaraeon Traeth a Dwr 360 newydd hyd yn oed yn well os gallent fwynhau golygfeydd dirwystr o’r môr wrth eistedd y tu mewn neu’r tu allan.

“Bydd y panel gwydr newydd hwn yn rhoi golygfeydd gwych i’r cwsmeriaid yno ac i’r miloedd o bobl sy’n ymweld â’r promenâd bob blwyddyn. Bydd hefyd yn ychwanegu at ganolfan newydd wych sy’n helpu Abertawe i atgyfnerthu ei statws fel dinas benigamp yn maes chwaraeon a gweithgareddau awyr agored.”

Mae’r Ganolfan Chwaraeon Traeth a Dwr 360 yn cynnig gweithgareddau traeth a dwr yn ogystal â chaffi, cyfleusterau newid, toiledau cyhoeddus a thoiled Changing Places ar gyfer pobl ag anableddau lluosog neu ddwys.

Cafodd y prosiect cyffredinol ei ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, Croeso Cymru a rhaglen yr Ardaloedd Adfywio.

Ewch i https://www.dewchifaeabertawe.com/watersports i gael mwy o wybodaeth.