fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Rhyfeddod piano Tsieineaidd ymhlith perfformwyr Brangwyn


C 25th April 2013

Bydd pianydd rhyfeddol Tsieineaidd yn swyno selogion cerddoriaeth glasurol yn Neuadd Brangwyn yn Abertawe cyn bo hir

Brangwyn105_BBC_NOW_1

Brangwyn Hall

Ji Liu fydd prif berfformiwr Cyngerdd Ymddiriedolaeth Vera Smart yn y lleoliad hanesyddol nos Iau 25 Ebrill.

 

Perfformiodd Ji, a anwyd yn Tsieina, am y tro cyntaf yn Neuadd Carnegie fyd-enwog Efrog Newydd yn 13 oed. Mae e hefyd wedi perfformio yn y Louvre ym Mharis, yn Conservatoire Tchaikovsky ym Mosgo ac yn Royal Festival Hall yn Llundain.

Bydd yn perfformio gweithiau cyfansoddwyr gan gynnwys Debussy, Chopin a Beethoven yn Neuadd Brangwyn. Bu Cyngor Abertawe’n helpu i drefnu y byddai’n perfformio.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Vera Smart gan Norman Smart ddwy flynedd yn ôl yn enw ei wraig i hyrwyddo cerddoriaeth siambr yn Abertawe.

Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae gan Neuadd Brangwyn draddodiad balch o ddenu enwau mawr o bob math o gerddoriaeth ac mae’n bluen yn het y lleoliad y bydd Ji Liu yn perfformio yno.

“Bydd cyngerdd Ji’n un o nifer dros y misoedd nesaf a ddylai apelio at bobl o bob oedran a chwaeth.”

Mae perfformiadau eraill yn Neuadd Brangwyn sydd yn yr arfaeth yn cynnwys Côr Ffilharmonig Abertawe a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC nos Wener 3 Mai.

Cynhelir Cyngerdd Gala T? Hafan yno ar 4 Mai pan fydd y tenor Rhys Meirion a’r soprano Gwawr Edwards yn perfformio gyda Chantorion Ariosa er budd Hosbis Plant T? Hafan. Bydd côr meibion o 150 o gantorion hefyd yn ymuno â nhw ar y llwyfan.

Bydd Cerys Matthews yn perfformio’n fyw yn Neuadd Brangwyn nos Wener 31 Mai.

Ewch i http://www.swansea.gov.uk/brangwynhall neu ffoniwch 01792 637300 i gael gwybodaeth am docynnau.