fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Plant ysgol yn dod â byd Peter Rabbit yn fyw


C 25th April 2013

Mae clasur Beatrix Potter, ‘The Tale of a Naughty Little Rabbit’ yn dod yn fyw drwy waith gan blant ysgolion Abertawe

autumn_-_nwm_1

National Waterfront Museum

Fel rhan o ‘Pori Drwy Stori’ – cynllun dwyieithog newydd ar draws Cymru gyda’r nod o hybu llythrennedd – mae plant ysgol lleol wedi datblygu arddangosfa ryngweithiol wedi’i seilio ar y llyfr ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

 

Bydd yr arddangosfa’n rhoi cyfle i blant archwilio twll Peter ac yn ei ddilyn ar ei ymweliadau drwg â gardd Mr. McGregor.

Cafodd y plant eu hysbrydoli ar ôl i gopïau o fersiwn arbennig o’r clasur anifeiliaid del gael eu rhoi i ddisgyblion ar draws y ddinas mewn sach lyfrau gyda’r nod o hybu eu cariad at lyfrau a’u gwneud yn ddarllenwyr brwd.

Roedd y sach a roddwyd i’r holl blant oed Derbyn yn gynharach eleni hefyd yn cynnwys Ty Bach Twt i Miss Trwyn Smwt, addasiad Cymraeg newydd gan Mererid Hopwood o lyfr gan Petr Horácek.

Mae’r rhaglen Pori drwy Stori wedi’i chefnogi gan Gyngor Abertawe a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae tîm Dechrau Da y cyngor yn cefnogi ysgolion a rhieni i wneud yn fawr o’r fenter i helpu plant i wella a mwynhau darllen.

Meddai’r Cyng. Will Evans, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddysgu a Sgiliau, “Rwyf wrth fy modd fod y plant wedi cael eu hysbrydoli i greu arddangosfa mor rhyfeddol ac rwy’n gobeithio y bydd yn ysbrydoli plant eraill i ddarllen.

“Po fwyaf y bydd plant yn darllen, gorau oll fydd eu darllen a thrwy hynny, byddant yn cael mwy o bleser o ddarllen.

“Mae’n ffaith bod cael gafael ar ddeunyddiau darllen yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i gyrhaeddiad plentyn yn yr ysgol.

“Dyma un o’r mentrau sy’n digwydd yn Abertawe i helpu rhieni i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion i annog eu plant i ddarllen, gwrando a siarad. Mae’n dipyn o hwyl a allai wneud gwahaniaeth mawr i sut byddant yn dod yn eu blaenau yn yr ysgol.”

Cynhelir yr arddangosfa am ddim o 25 Ebrill tan ddiwedd mis Mai. Mae mynediad i’r amgueddfa AM DDIM.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.poridrwystori.org.uk neu ffoniwch Gydlynwyr Dechrau Da, Karen ac Anna ar 01792 636167 neu 07919626375.

I drefnu ymweliad gan ysgolion a grwpiau, ffoniwch yr amgueddfa ymlaen llaw i gadw lle (029) 2057 3600

Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau llawn hwyl ac am ddim yn cael eu cynnal hefyd yn llyfrgelloedd Abertawe ac sy’n cefnogi prosiect Pori Drwy Stori a mentrau eraill gyda’r nod o gael plant ifanc a’u teuluoedd i ddarllen