fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Hwb gan y cyngor i dyfwyr a chyflenwyr llysiau


C 25th April 2013

Mae cyflenwyr a thyfwyr Cymru wedi cael hwb ar ôl i Gyngor Abertawe lofnodi cytundeb i brynu ei ffrwythau a’i lysiau yng Nghymru.

Winter_veg_

Winter vegetables

Mae’r awdurdod lleol wedi ymuno â 13 o gynghorau ledled Cymru i roi ei gytundebau cynnyrch ffres i gyflenwyr a thyfwyr lleol lle bynnag y bo modd.

 

Mae’n rhan o ymdrechion y cyngor i roi hwb i’r economi a swyddi lleol drwy fuddsoddi ei gyllideb gwerth miliynau o bunnoedd mor agos at ei filltir sgwâr â phosib. Mae hefyd am sicrhau ansawdd uchel, cadwyn gyflenwi dryloyw a gwerth am arian.

Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros Gyllid ac Adnoddau, “Fel awdurdod lleol, rydym yn gwario mwy na £75 miliwn yn Abertawe ar nwyddau, gwasanaethau a deunyddiau a £58 miliwn ychwanegol yng ngweddill Cymru.

“Unwaith eto mae’r cytundeb diweddaraf yn cynrychioli gwerth am arian, newyddion da i gyflenwyr a thyfwyr yma a hwb economaidd i’r ardal gyfan.”

O ganlyniad i gytundeb newydd Consortiwm Prynu Cymru ar brynu ffrwythau a llysiau, bydd Abertawe’n buddsoddi £400,000 y flwyddyn mewn cynnyrch ffres, lleol lle bynnag y bo modd.

Mae’n dilyn cytundeb gan Gyngor Abertawe i wario £300,000 y flwyddyn ar laeth lleol.

Defnyddir y cynnyrch hwn gan wasanaeth prydau Cyngor Abertawe mewn ysgolion, adeiladau dinesig a lleoliadau’r gwasanaethau cymdeithasol megis cartrefi gofal a chanolfannau gweithgareddau.

Meddai Simon Griffiths, Rheolwr Tîm Caffael y Cyngor, “Mae Cyngor Abertawe’n rheoli cyllideb gwerth miliynau o bunnoedd bob blwyddyn. Rydym am sicrhau bod pob ceiniog a wariwn yn diwallu anghenion ein dinasyddion, busnesau lleol, ymwelwyr a’r gymuned yn gyffredinol.

“Yn ogystal ag ymrwymo i gytundebau fel hyn, rydym hefyd yn gweithio i’w gwneud yn haws i fusnesau lleol geisio am gontractau eraill, naill ai ar eu pennau eu hunain neu drwy gydweithio â chwmnïau cenedlaethol mawr.”

Meddai Sybil Crouch, Aelod y Cabinet dros Gynaladwyedd, “Mae hyn yn newyddion da i gynaladwyedd gan fod arian sy’n cael ei wario’n lleol yn aros yn lleol. Mae cefnogi ffermwyr a thyfwyr lleol yn byrhau cadwyni cyflenwi gan roi tawelwch meddwl i bobl o ran ansawdd a diogelwch eu bwyd.