fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Hysbysfyrddau lliwgar wedi'u codi wrth i waith adnewyddu'r Glynn Vivian barhau


C 24th April 2013

Er gwaethaf ei bod ar gau ar hyn o bryd oherwydd gwaith adnewyddu sylweddol, gall pobl sy’n mynd heibio i adeilad Oriel Glynn Vivian Abertawe ddal i werthfawrogi’r gwaith celf syfrdanol sy’n dyddio’n ôl canrifoedd.

Image_2

Glynn Vivian Art Gallery (Powell Dobson Architects)

Mae hysbysfyrddau lliwgar a llawn gwybodaeth wedi’u codi ar yr adeilad hanesyddol ar Heol Alexandra wrth i gontractwyr barhau â phrosiect gwerth £6 miliwn ar y safle.

 

Mae’r gwaith celf yn cynnwys Abertawe gan Samuel Austin (1796 – 1834), Castell Abertawe ym 1885 gan Alfred Parkman a Marchnad Abertawe ym 1830 gan Calvert Richard Jones. Gr?p 55+ Oriel Gelf Glynn Vivian a Phobl Ifanc Glynn Vivian, sydd bellach yn cwrdd yn y YMCA ar Ffordd y Brenin tra bod y gwaith yn adeilad y brif oriel yn parhau, sydd wedi dewis yr holl waith celf ar yr hysbysfyrddau.

Mae eu dosbarthiadau ymysg sawl un a gynhelir i bobl o bob oed fel rhan o raglen helaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau oddi ar y safle Glynn Vivian.

Mae’r hysbysfyrddau hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y prosiect adnewyddu a chôd QR (Ymateb Cyflym) y gall pobl â ffonau clyfar ei sganio i fynd yn syth i wefan y Glynn Vivian.

Mae’r gwaith adnewyddu i brif adeilad yr oriel yn cynnwys gwaith gweddnewid sylweddol i adain y 1970au, cadwraeth yr oriel wreiddiol o 1911 ac estyniad i gefn adeiladau Heol Alexandra.

Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae Abertawe yn ddinas diwylliant flaenllaw a bydd adnewyddu Oriel Gelf Glynn Vivian yn helpu i gryfhau’r enw da hwnnw. Bydd y prosiect yn arwain at brofiad i ymwelwyr sy’n briodol i’r 21ain ganrif mewn lleoliad sy’n bensaernïol wefreiddiol. Bydd hefyd yn helpu i gyflwyno’r celfyddydau i filoedd o bobl, nid yn unig yn Abertawe ond ledled de Cymru. Mae hyn eto’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a sefydliadau eraill.”

Bydd yr adnewyddu hefyd yn cynnwys mynedfa newydd a siop ar lefel y stryd i mewn i adain y 1970au, lifft newydd i ymwelwyr, mwy o le ar gyfer arddangosfeydd, man darlithio newydd ac ystafell gymunedol, ardal groeso newydd ar gyfer rhaglenni dysgu a llyfrgell ac archif penodol.

Mae’r prosiect adnewyddu’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru (gan gynnwys cyfraniad o £550,000 o raglen Ardal Adfywio Abertawe), Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Abertawe. Sicrhawyd arian hefyd drwy gynllun grant y Rhaglen Gwella Adeiladau a gynhelir gan Gyngor Abertawe a’i ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Meddai John Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant a Chwaraeon, “Mae Oriel Gelf Glynn Vivian bob tro wedi rhoi cyfle i bobl weld y gelf orau o Gymru a gwledydd eraill. Mae’n denu llawer o bobl i Abertawe, gan roi hwb i’r economi leol. Felly rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £3.5 miliwn trwy ein Cronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol at ei hadnewyddu.”

Meddai Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Buddsoddi ac Ariannu Cyngor Celfyddydau Cymru, “Mae arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi’r oriel i wneud ei rhaglen gelfyddydau ac addysgol yn fwy hygyrch i’r gymuned leol ac yn helpu i greu ardal gymdeithasol newydd yn yr adeilad lle gall pobl gwrdd i drafod a chymryd rhan yn y celfyddydau. Mae’r Glynn Vivian yn lleoliad allweddol yn ein rhwydwaith cenedlaethol o orielau ac mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu ei huchelgais i ddarparu celf weledol o’r radd flaenaf yng Nghymru. Bydd y cynllun mawreddog ac uchelgeisiol hwn yn cynnig rhywbeth i bawb.”

Cefnogir yr oriel hefyd drwy grant gwerth £576,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ddatblygu rhaglen dysgu a chyfranogi sy’n gysylltiedig â rhoddion gwreiddiol Glynn Vivian. Cynhelir hon oddi ar y safle a bydd arddangosfeydd newydd pan fydd yr oriel yn ailagor yn hydref 2014.