Mae dros £1 filiwn wedi’i chlustnodi i uwchraddio to Marchnad Abertawe
Mae’r to, sydd wedi para dros 20 mlynedd yn hwy na’i oes ddisgwyliedig, wedi gollwng dwr ar sawl achlysur dros y blynyddoedd diwethaf.
Ymhlith y cynlluniau sy’n cael eu hystyried mae uwchraddio’r to gyda mesurau effeithlonrwydd ynni fel paneli solar integredig a draeniad dwr glaw.
Bydd y cynllun arfaethedig yn cynnwys rhoi dalennau to newydd yn lle’r hen rai ar y to cromen eiconig, rhoi ffenestri to yn lle’r hen rai a thrin pob un o’r ardaloedd to gwastad. Bydd y gwydro yn cael ei uwchraddio hefyd a chaiff y to ei gryfhau.
Gofynnir i Gabinet Cyngor Abertawe yn awr gymeradwyo’r gwariant a chyflwyno cais cynllunio yn y dyfodol.
Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae Marchnad Abertawe’n un o nodweddion hynod bwysig canol ein dinas sy’n helpu i gryfhau ein henw da am fasnachwyr annibynnol o’r radd flaenaf. Mae’n denu ymwelwyr o bell i ffwrdd a gwnaed argraff fawr ar Dywysog Cymru pan ddaeth i ymweld ym mis Rhagfyr.
“Mae’r farchnad yn helpu canol dinas Abertawe i greu argraff dda a dyna pam mae’n bwysig ein bod yn buddsoddi yn ei dyfodol yn ystod yr amseroedd hynod gystadleuol hyn i fasnachwyr.
“Ond mae hefyd yn hanfodol ein bod yn sicrhau’r tarfu lleiaf posibl ar neuadd y farchnad pan fydd unrhyw waith yn mynd rhagddo. Bydd cyfyngu ar effaith y gwaith a chynnal cyswllt rheolaidd â masnachwyr y farchnad yn allweddol i’n cynllunio wrth i’r cynnig hwn symud ymlaen.”
Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo’r gwariant, bydd hefyd yn gyfle i Gyngor Abertawe gael arian cyfatebol i’r cynllun o ffynonellau eraill dan raglen Dinas y Glannau. Gallai hyn arwain at welliannau eraill yn y farchnad gan gynnwys mwy o le a gwella’r arwyddion a’r mynedfeydd.
Mae Rhaglen Gydgyfeirio Dinas y Glannau wedi darparu mwy na £32 miliwn o gyllid i welliannau canol y ddinas a’r glannau. Daw’r arian yn bennaf o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) gydag arian cyfatebol gan raglenni Ardaloedd Adfywio a Chynllun Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a Chyngor Abertawe.
Ewch i http://www.swanseaindoormarket.co.uk i gael mwy o wybodaeth am y farchnad.