fbpx

Hwb i gynlluniau adfywio Gweithfeydd Copr Hanesyddol yr Hafod


C 23rd April 2013

Gall y cynlluniau i adfywio safle Gweithfeydd Copr Hanesyddol yr Hafod Abertawe yn gyrchfan fywiog i dwristiaeth treftadaeth gymryd cam ymlaen cyn hir

store_hafod as mill normal

Gwaith Copr yr Hafod

Cynigwyd y dylai Cyngor Abertawe greu cytundeb 15 mlynedd gyda Phrifysgol Abertawe a fydd yn caniatáu i arbenigwyr o’r ddau sefydliad gydweithio ar brosiect a fydd yn defnyddio’r safle unwaith eto.

 

Nod y prosiect yw creu cyrchfan newydd mewn amgylchedd hanesyddol ar safle a fyddai’n creu safleoedd busnes ac addysgol, gwesty ac ardaloedd preswyl. Mae pont gerddwyr i gysylltu’r ardal â’r safle Garreg Wen dros afon Tawe ymhlith y syniadau. Gall adeiladau presennol hefyd gynnwys canolfan ymwelwyr a chynnig man cychwyn ar gyfer teithiau tywys am hanes yr ardal.

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe ar gynllun am ddwy flynedd. Mae arian gan raglen Ardal Adfywio Llywodraeth Cymru, cynllun Grant Twristiaeth Treftadaeth Cadw a’r Cyngor yn golygu bod arbenigwyr adfywio Groundwork Penybont-Castell-nedd-Port Talbot eisoes wedi dechrau rhan gyntaf y gwaith ar y safle. Mae hyn yn cynnwys clirio llystyfiant a oedd wedi gordyfu er mwyn gwneud yr adeiladau presennol yn fwy gweladwy, sefydlogi nodweddion allweddol a gosod arwyddion a llwybrau cerdded i ymwelwyr.

Gofynnir yn awr i Gabinet Cyngor Abertawe i gymeradwyo’r cytundeb mwy hirdymor gyda Phrifysgol Abertawe .

Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae gan y safle hwn arwyddocâd hanesyddol yn rhyngwladol sydd wedi cael ei esgeuluso am rhy hir. Mae ein perthynas weithiol gyda Phrifysgol Abertawe i ddatblygu cynlluniau adfywio ar gyfer y safle wedi bod yn wych, felly dyma pam rydym bellach yn ceisio ffurfioli’r cytundeb ar gyfer y 15 mlynedd nesaf.

“Byddai ein cynlluniau yn diogelu hanes cyfoethog yr Hafod ac yn helpu’r safle i fod yn gyrchfan treftadaeth â defnydd cymysg lle byddai pobl yn byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser hamdden. Mae ffurfioli’r cytundeb yn golygu y gallwn gydgyfrannu mwy o adnoddau a chael gafael ar gyllid na fyddai o anghenraid ar gael fel arall.

“Byddwn yn parhau i gysylltu ag ysgolion a’r gymuned leol am ein cynlluniau wrth iddynt ddatblygu.”

Meddai’r Athro Huw Bowen, sy’n arwain tîm y prosiect ar ran Prifysgol Abertawe, “Newyddion gwych yw hyn, ac mae’n gcam mawr ymlaen. Rydym wedi sefydlu perthynas dda iawn a chreadigol â swyddogion y Cyngor dros y ddwy flynedd diwethaf ac rydym wedi gwneud cynnydd mawr yn y prosiect hwn. Rydw i bellach yn edrych ymlaen at y dyfodol gyda gobeithion mawr wrth i ni geisio rhoi chwarae teg i un o’r safleoedd treftadaeth diwydiannol mwyaf pwysig yn y byd.”

Mae safle 12.5 erw Gweithfeydd copr yr Hafod yn cynnwys 12 adeilad a nodweddion rhestredig Gradd II.

Mae gwaith smeltio’r safle ac adeiladau eraill yn dyddio o 1810. Roedd y rhain wedi helpu i lunio datblygiad Abertawe fel tref ddiwydiannol allweddol a oedd wrth wraidd diwydiant trwm integredig cyntaf y byd.

Ewch i wefan y prosiect yn http://www.welshcopper.org.uk/en/ am fwy o wybodaeth.