fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Gwaith i adnewyddu twnnel Stryd Paxton ar fin gorffen


C 22nd April 2013

Mae’r gwaith i droi twnel Stryd Paxton, a fu unwaith yn lle tywyll a brwnt, yn gyswllt i cerddwyr a beicwyr rhwng canol y ddinas a’r marina bron â’i gwblhau.

Waterfront_1

Waterfront upgrade

Mae’r twnnel yn dirnod lleol adnabyddus y rhedai rheilffordd enwog y Mwmbwls drosto ers talwm a nawr, dan gynllun y cyngor o’r enw Cysylltiadau â’r Glannau, bydd yn rhoi mynediad i’r marina.

 

Mae goleuadau stryd newydd hefyd yn cael eu gosod ar ochr y marina i’r twnnel ac mae’r ardal yn cael ei hagor gyda llwybr llydan ac agored i gerddwyr.

Ar ochr ddeheuol y twnnel, ceir gwelliannau hefyd i drigolion trwy gael gwared ar yr hen ardal eistedd aflêr gan wella’r olwg trwy’r twnnel i’r ardal forol, gan ei gwneud yn fwy diogel a deniadol i breswylwyr ac ymwelwyr â’r glannau a’r marina.

Mae’r llwybr troed rhwng yr LC a’r Ganolfan Ddinesig wedi ei ledu’n barod ac mae cysylltiad newydd o Dunvant Place i’r blaendraeth ar fin cael ei gwblhau.

Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae twnnel Stryd Paxton wedi cael ei adnewyddu ynghyd â’r ardal ar boptu iddo er mwyn creu cyswllt deniadol rhwng Heol Ystumllwynarth ac ardal y glannau.

“Bydd y cynllun ehangach Cysylltiadau â’r Glannau, a fydd yn cynnwys llwybr cerdded a beicio rhwng gwesty’r Marriot a’r Ganolfan Ddinesig i’r promenâd, yn helpu ymwelwyr a thrigolion i ddod o hyd i’w ffordd rhwng y glannau a chanol y ddinas yn rhwyddach.

“Dyma newyddion da i siopau a busnesau eraill yn y ddwy ardal.”

Mae Cysylltiadau â’r Glannau yn un o sawl prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Chyngor Abertawe i wella profiad canol dinas Abertawe i drigolion, busnesau ac ymwelwyr â’r ddinas.

Bydd agweddau eraill ar y cynllun yn cynnwys lledu’r llwybr i’r gorllewin i’r Ganolfan Ddinesig i’r blaendraeth a phalmantu a gosod rheiliau newydd i gyfeiriad pen gorllewinol y marina.