fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Enwau mawr byd ffilmiau a theledu ar eu ffordd i wyl yn Abertawe


C 22nd April 2013

Mae enwau mawr byd ffilm, teledu a’r cyfryngau yn dod i Abertawe’r wythnos nesaf

celtic-media-festival-logo_1

Celtic Media Festival logo 2013

Bydd Birger Larsen, cyfarwyddwr ‘The Killing’, rhaglen deledu Ddanaidda fu’n llwyddiant mawr ledled y byd, ymhlith y siaradwyr yng Ng?yl y Cyfryngau Celtaidd a gynhelir yn Ngwesty Marriot y ddinas o ddydd Mercher 24 Ebrill tan ddydd Gwener 26 Ebrill.

 

Cefnogir Gwyl y Cyfryngau Celtaidd gan sefydliadau darlledu, ffilmiau, diwylliannol a datblygu economaidd drwy gydol y gwledydd Celtaidd. Mae’r wyl yn ddathliad tridiau blynyddol o ddarlledu, talent ffilmiau a rhagoriaeth o’r Alban, Ynys Manaw, Iwerddon, Cernyw, Cymru a Llydaw.

Bydd yr wyl yn dechrau drwy ddangos rhaglen ddogfen am Farchnad Abertawe gan y BBC y disgwylir ei darlledu yn ddiweddarach y mis hwn.

Eleni yw’r tro cyntaf i’r wyl ddod i Abertawe yn 34 mlynedd ei hanes. Disgwylir i gannoedd o gynadleddwyr ddod i’r gweithdai a’r trafodaethau niferus sy’n cael eu trefnu.

Ymhlith y siaradwyr eraill mae Peter Devlin, cymysgydd sain yn Hollywood sydd wedi cael ei enwebu am Oscar am ei waith ar Star Trek, Transformers a Pearl Harbour. Ymhlith y cyfarwyddwyr mae Peter wedi gweithio gyda nhw mae Ron Howard, Oliver Stone a JJ Abrams, a ddewiswyd yn ddiweddar i gyfarwyddo’r gyfres nesaf o ffilmiau Star Wars.

Meddai’r Cyng. David Phillips, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Fel dinas, mae’n bleser gennym groesawu Gwyl y Cyfryngau Celtaidd 2013 am ei bod yn cryfhau ymhellach ein statws fel dinas diwylliant flaenllaw. Ceir sawl dimensiwn i Abertawe, ond mae ein treftadaeth ddiwylliannol yn un gref ac mae wedi helpu i ddehongli stori ein dinas drwy gydol hanes. Rydym yn ymhyfrydu yn ein doniau creadigol ac yn parhau i feithrin y rhain drwy ein hysgolion, ein prifysgolion, ein colegau a’n cymunedau.

“Bydd yr wyl yn cynnwys dadleuon difyr a digwyddiadau diddorol ac yn helpu i godi proffil Abertawe ymhellach ar ôl i’r Elyrch gael lle yn Ewrop y tymor nesaf ac yn y cyfnod yn arwain at ganmlwyddiant genedigaeth Dylan Thomas y flwyddyn nesaf.

“Rwy’n gobeithio y bydd yr ymwelwyr â’n dinas y glannau yn archwilio’r hyn sydd gennym i’w gynnig a dweud wrth bawb mor wych yw Bae Abertawe. Gyda Bae Abertawe yn gefndir a thraethau arobryn Gwyr o fewn cyrraedd, byddwn yn cynnig lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer yr wyl gyffrous hon lle gall pawb gael croeso cynnes Cymreig.”

Meddai Catriona Logan, Cynhyrchydd Gwyl y Cyfryngau Celtaidd, “Rydym yn gyffrous i ddod â Gwyl y Cyfryngau Celtaidd i Abertawe y mis hwn. Mae Abertawe’n ddinas â threftadaeth gyfoethog iawn a chymuned Gymraeg fywiog, ac rwy’n siwr y bydd cynadleddwyr ein gwyl yn mwynhau archwilio’r cyfan sydd gan Abertawe a De Cymru i’w gynnig. Bydd rhai o’r ffigurau mwyaf dylanwadol o’r diwydiannau darlledu, ffilm a chyfryngau digidol yn ymweld ag Abertawe ar gyfer yr wyl, ac rwy’n siwr mai hon fydd y ddinas berffaith i gynnal yr hyn sy’n addo bod yn dridiau gwych.”

Bydd Guto Harri, Cyfarwyddwr Cyfathrebu News International, hefyd yn yr wyl. Bydd yn siarad â Peter Florence, Cyfarwyddwr Gwyl y Gelli, am angenrheidrwydd newyddion a’r heriau sy’n wynebu ieithoedd nad ydynt yn cael eu siarad cymaint ym myd newidiol newyddiadura.

Bydd y cynadleddwyr hefyd yn cael y cyfle i fynd ar daith o amgylch set Da Vinci’s Demons, cydweithrediad diweddaraf BBC Worldwide â Starz TV.

Ewch i http://www.celticmediafestival.co.uk/ am fwy o wybodaeth.