fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Llofnodi cytundeb i helpu i adfer Coed Cwm Penllergaer


C 15th April 2013

Mae cynlluniau i gadw a gwella coed godidog Cwm Penllaergaer wedi symud cam sylweddol ymlaen

Waterfall_1

Penllergare Woods

Mae Cyngor Abertawe wedi llofnodi cytundeb gydag Ymddiriedolaeth Penllergaer i weithio mewn partneriaeth agosach nag erioed i adfer ac adfywio tirwedd naturiol a diwylliannol coed y cwm yn y dyfodol.

 

Cyfrannodd datblygiad a fandaliaeth at ddirywiad yr ystâd ar ddiwedd yr 20fed ganrif cyn y sefydlwyd Ymddiriedolaeth Penllergaer er mwyn gwrthdroi’r duedd 13 mlynedd yn ôl. O ganlyniad i’r cytundeb newydd hwn, bydd Cyngor Abertawe’n helpu’r Ymddiriedolaeth i wella mynediad i goed y cwm a’u hyrwyddo fel atyniad twristiaeth drwy gydol y flwyddyn. Bydd y cyngor hefyd yn helpu i nodi ffynonellau arian posib.

Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae Coed Cwm Penllergaer yn un o’n tirweddau naturiol mwyaf godidog ond am nifer o resymau mae’r safle wedi cael ei esgeuluso’n rhy hir. Mae Ymddiriedolaeth Penllergaer wedi gwneud gwaith rhagorol i gynyddu ymwybyddiaeth o’r coed ac adfer harddwch y lle dros y degawd diwethaf, ond, o ganlyniad i’r cytundeb hwn, byddwn yn rhannu ein harbenigedd â nhw o hyn ymlaen i helpu i adfywio’r safle er lles pobl Abertawe.”

Bydd y cytundeb yn canolbwyntio ar gyflawni gweithgareddau i’w hadolygu’n flynyddol. Mae’r rhain yn cynnwys ennill achrediad y Faner Werdd i’r coed, gwella’r arwyddion ac adfer yr arsyllfa a’r ardd furiog. Bydd cynaladwyedd, hyfforddiant a dysgu i gyd yn elfennau allweddol o adfywio coed y cwm.

Meddai’r Cyng. Sybil Crouch, Aelod y Cabinet dros Gynaladwyedd, “Dyma gyfle go iawn, nid yn unig i amddiffyn yr amrywiaeth cyfoethog o ffawna a fflora sydd gan Benllergaer, ond hefyd i ddarparu hyfforddiant a chyflogaeth cynaliadwy ynghyd â chyfleoedd gwaith gwirfoddol. Mae hyn yn bwysig oherwydd y bydd yn darparu sgiliau newydd i bobl a chynyddu ymwybyddiaeth ymhellach o hanes a bioamrywiaeth y safle, gan sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer y safle hanesyddol hwn.”

Meddai Terry Jones, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Penllergaer, “Fel elusen annibynnol fach leol, mae angen cymaint o help â phosib arnom i sicrhau bod y coed yn cael eu rheoli er lles y cyhoedd yn y tymor hir. Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynnal ein sefydliad ac rydym bob amser yn falch o glywed gan bobl a hoffai helpu a chymryd rhan. Rydym wrth ein boddau bod Cyngor Abertawe wedi cytuno i’n cefnogi fel hyn, gan adeiladu ar y berthynas, sydd eisoes yn gryf, a ddatblygwyd gennym yn y blynyddoedd diweddar.

“Yn ogystal â bod o bwys cenedlaethol oherwydd y dirwedd a ddyluniwyd gan deulu Dillwyn Llewelyn yn ystod y 19eg ganrif, mae’r coed hefyd yn ased hamdden allweddol ac yn hafan i fywyd gwyllt mewn ardal sy’n gynyddol drefol. Mae preswylwyr lleol wedi defnyddio’r coed at ddiben hamdden anffurfiol ers llawer o flynyddoedd ac rydym yn awyddus i sicrhau eu bod yn parhau’n lle hygyrch y gall pawb ei fwynhau.”

Roedd ffyniant Ystâd Penllergaer ar ei anterth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd John Dillwyn Llewllyn, a’i creodd, yn adnabyddus am ei arbrofion gwyddonol, ffotograffiaeth arloesol, dylunio tirwedd a garddwriaeth.