fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Bydd Bond yn bywiogi castell hanesyddol


C 10th April 2013

Bydd cyffro James Bond yn bywiogi Castell Ystumllwynarth hanesyddol y mis nesaf.

oystermouth-1_1

Oystermouth Castle

Dangosir Skyfall ar sgrîn fawr yn yr atyniad nos Wener 10 Mai fel rhan o gyfres o ffilmiau awyr agored a drefnir ledled Abertawe.

 

Mae Skyfall, gyda Daniel Craig, Judy Dench a Javier Bardem, wedi derbyn clod helaeth fel un o ffilmiau gorau cyfres James Bond.

Cyngor Abertawe sy’n trefnu’r digwyddiad.

Yn dilyn hyn, bydd Les Misérables yn cael ei dangos yn y castell nos Sadwrn 11 Mai. Mae Les Misérables yn seiliedig ar y sioe gerdd a berfformiwyd hwyaf yn y byd, ac ymhlith ei sêr y mae Russell Crowe, Hugh Jackman ac Anne Hathaway.

Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae Castell Ystumllwynarth wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers iddo gael ei ailagor yn dilyn gwaith cadwraeth sylweddol. Mae’n un o’n trysorau hanesyddol pennaf sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn ei ddefnyddio i lwyfannu digwyddiadau am ei fod yn dirnod gwych.

“Oherwydd ei dreftadaeth a’i leoliad, mae’r castell yn lle delfrydol i ddangos ffilmiau awyr agored megis Skyfall a Les Misérables. Maen nhw’n ffilmiau rhagorol a fydd yn helpu i greu awyrgylch gwych.

“Bydd popgorn a ch?n poeth ar werth gan helpu i ail-greu awyrgylch sinema draddodiadol a chaiff ymwelwyr gyfle i logi cadeiriau cynfas hefyd.”

Bydd Transformers yn cael ei dangos hefyd mewn rhai parciau cymunedol ddechrau mis Mai. Fe’i dangosir ym Mharc Ynystawe am 7.30pm nos Sadwrn 4 Mai ac yna ym Mharc William, Casllwchwr am 7.30pm nos Sul 5 Mai.