Bydd Daleks o Doctor Who yn dod i Abertawe ar ddiwedd y flwyddyn i ddathlu hanner canmlwyddiant y rhaglen deledu hynod boblogaidd.
Mae”>www.visitswanseabay.com/dylanthomascentre.Mae Diwrnod Doctor Who wedi’i drefnu yng Nghanolfan Dylan Thomas yn y ddinas ddydd Sadwrn 2 Tachwedd fel rhan o ?yl Dylan Thomas 2013.
Mae trefnwyr yr ?yl yn casglu arbenigwyr Dr Who ynghyd am ddiwrnod o hwyl i edrych yn ôl ar hanes y rhaglen ac edrych at y dyfodol.
Mae Cyngor Abertawe ymhlith y trefnwyr.
Bydd gweithdy celf i blant, panel o awduron ac ymweliad gan y Daleks, sef hil arallfydol o fwtantiaid ffuglennol a ymddangosodd am y tro cyntaf yn Dr Who ym 1963.
Mae newyddion am y digwyddiad yn dod wrth i gyfres newydd Dr Who, gyda Matt Smith, ddechrau ar BBC Un.
Meddai Jo Furber, Swyddog Llenyddiaeth Cyngor Abertawe, “Ym 1963, ymddangosodd raglen amser te i deuluoedd gan dîm o awduron, cyfarwyddwyr a dylunwyr ifanc a dibrofiad yn stiwdios Lime Grove y BBC ar sgriniau teledu Prydain am y tro cyntaf.
“Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, nid yn unig y mae Doctor Who yn dal i fod ar y teledu mae hefyd yn eicon diwylliannol hynod boblogaidd sy’n fath arbennig o ffuglen wyddonol Brydeinig.
“Yna yn 2004, cafodd Doctor Who elfen Gymreig newydd pan ddechreuodd gael ei gynhyrchu yng Nghaerdydd gyda Russell T Davies, o Abertawe yn sgriptio. Mae llawer o’r cynnwys hefyd wedi’i ffilmio yn Abertawe a bydd digwyddiad mis Tachwedd yn cryfhau cysylltiadau balch ein dinas â’r rhaglen.”
Cynhelir G?yl Dylan Thomas eleni rhwng 27 Hydref a 9 Tachwedd.
Ewch i http://www.dylanthomas.com am fwy o wybodaeth am Ganolfan Dylan Thomas.