fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Sut i gyrraedd

Cynhelir yr arddangosfa ym Maes Rygbi a Chriced San Helen, Bryn Road, Brynmill, Abertawe SA2 0AR.

Mewn car

O’r M4 (Caerdydd)

Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 42 a dilynwch yr A483 i Abertawe. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton ar yr A4067. Bydd Maes Rygbi San Helen ar y dde.

O’r M4 (Caerfyrddin)

Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 47 a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Abertawe ar yr A483. Gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton, trowch i’r dde ar ôl gyrru tua 2.5 milltir  wrth y prif oleuadau, gan ddilyn yr arwyddion am ‘Gŵyr’ (mae tafarn The Marquis Arms ar yr ochr dde). Dilynwch yr A4216 a throwch i’r dde tuag at Sgeti. Ewch yn eich blaen gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton (bydd maes parcio gorlanw Singleton ar gael i barcio ar y pwynt hwn) Ewch heibio’r ysbyty ar eich llaw chwith, parhewch i’r goleuadau a throwch i’r chwith ar Mumbles Road i gyrraedd meysydd parcio tir y Rec/y Cae Lacrosse.

Sylwer

Bydd Mumbles Road ar gau o 5pm i 9pm, a gall ymwelwyr sy’n cyrraedd ar ôl yr amser hwn fynd i mewn i feysydd parcio’r Ganolfan Ddinesig a Paxton Street o hyd (oni bai eu bod yn llawn) a gallant hefyd ddefnyddio’r meysydd parcio niferus yng nghanol y ddinas nad ydynt yn bell ar droed.

Cau ffyrdd 4pm – 9pm*

Gorse Lane – bydd y llwybr amgen drwy Mumbles Road, Guildhall Road South, Francis Street a King Edwards Road, a bydd y llwybr yn gweithredu i’r gwrthwyneb.

Bryn Road rhwng Osborne Terrace a King Edwards Road – bydd y llwybr amgen ar hyd Osborne Terrace, Brynmill Avenue, St Albans Road, Finsbury Terrace, Marlborough Road a Rhyddings Park Road – bydd y llwybr yn gweithredu i’r gwrthwyneb.

King Edwards Road rhwng Rhyddings Park Road a Gorse Lane.

Finsbury Terrace rhwng Bryn Road a Brynmill Crescent.

Hefyd, gwaherddir mynediad i Brynmill Crescent, Pantycelyn Road, Taliesyn Road a Ceiriog Road, ac eithrio i’r gwasanaethau brys a phreswylwyr lleol.

Caiff arwyddion eu codi sy’n dangos llwybrau amgen, a chynhelir mynediad i breswylwyr cyhyd â’i bod yn ddiogel gwneud hynny.

7.15pm – 7.45pm*

Mumbles Road, rhwng Brynmill Lane a Guildhall Road South (i’r dwyrain a’r gorllewin) am 30 munud rhwng 7.15pm a 7.45pm er mwyn i ymwelwyr adael.

Cyfyngiad Dim Parcio a Gorchymyn Halio Cerbyd Ymaith

Oystermouth Road – rhwng St Helens Road ac Argyle Street, gwahardd aros a llwytho dros dro rhwng 5.30pm a 8.30pm.

*Brasamcan o amserau yw’r rhain

Meysydd parcio’r digwyddiad

Bydd pob maes parcio ar gyfer y digwyddiad ar agor o 4pm. Sylwer na ellir parcio dros nos yn unrhyw un o feysydd parcio’r digwyddiad. Rhaid talu wrth gyrraedd pob maes parcio.

Sylwer bod nifer cyfyngedig o leoedd parcio hygyrch ym mhob maes parcio a’r cyntaf i’r felin gaiff y rhain.

 

Maes Parcio’r Rec

Cost fesul cerbyd: £5

Côd post – SA2 0AU

Arwyneb y maes parcio – graean

Ar agor o 4pm

Talu wrth gyrraedd yn unig

 

Canolfan Ddinesig (gorllewin)

Cost fesul cerbyd: £5

Côd post – SA1 3SN

Arwyneb y maes parcio – tarmac

Ar agor o 4pm

Talu wrth gyrraedd yn unig

 

Guildhall 

Cost fesul cerbyd: £5

Côd post – SA14PE

Arwyneb y maes parcio – tarmac

Ar agor o 4pm

Talu wrth gyrraedd yn unig

 

Maes parcio’r cae Lacrosse

Cost fesul cerbyd: £5

Côd post – SA2 0AU

Arwyneb y maes parcio – gwair

Ar agor o 4pm

Talu wrth gyrraedd yn unig

Cludiant Cyhoeddus

Ewch i wefan Traveline Cymru neu ffoniwch 0871 200 2233 i gael help i drefnu teithiau bws neu drên.

Bydd bysys yn teithio’n ôl yr arfer – gwiriwch amserlenni ar wefan Traveline Cymru –www.traveline.cymru/

Efallai y bydd oedi oherwydd traffig trwm.

First Cymru  – www.firstgroup.com/south-west-wales
Gwasanaethau Cwsmeriaid: 01792 572 255, 8am – 8pm bob dydd
Traveline: 0800 4640000 (AM DDIM) 7am – 8pm bob dydd

Tacsis

Bydd tacsis ar gael o orsaf drenau Abertawe, canol dinas Abertawe a nifer o leoliadau eraill yn yr ardal. Bydd taith mewn tacsi o’r orsaf drenau i’r bae’n costio tua £6, er y dylech gofio y bydd traffig prysur/teithiau araf yn cynyddu’r pris.

Rhannu Car

Os ydych yn teithio mewn car, rhannwch gar os oes modd. Bydd rhannu car yn eich helpu i arbed arian drwy rannu’r costau ac yn lleihau faint o draffig sydd ar y ffordd, gan helpu’r amgylchedd.