Parc Singleton
Caneuon dawns poblogaidd yn cael eu perfformio gan gerddorfa fyw o dan y sêr…
Mae Abertawe’n paratoi i gael blas ar Ibiza ym mis Gorffennaf wrth i gyngerdd awyr agored, sy’n addo bod yn barti gorau’r haf, ddod i Barc Singleton.
Bydd Classic Ibiza, cerddorfa fyw gyda 32 o gerddorion yng nghwmni DJs a chantorion yn ailddychmygu rhai o ganeuon dawns mwyaf poblogaidd y 30 o flynyddoedd diwethaf. Byddwch yn clywed caneuon fel ‘Insomnia’, ‘Sandstorm’,’Levels’ a ‘Born slippy’ yn cael eu perfformio gan gerddorfa wych!
Yn ogystal â pherfformiad gan y brif act, Classic Ibiza, ac act gynorthwyol wadd arbennig i’w chyhoeddi, bydd pawb sy’n dod i’r gyngerdd yn profi safle sy’n debyg i ŵyl gerddoriaeth lawn, gyda stondinau colur pefr, diddanwyr byw sy’n crwydro a nifer o farrau a siopau bwyd stryd.
Bydd tocynnau, sy’n dechrau o £32.50, ar werth ddydd Mercher 14 Chwefror a disgwylir i bob tocyn gael ei werthu ymlaen llawn.
Tocynnau Cynorthwyydd Personol/Gofalwr
I gyflwyno cais am docyn gofalwr, cliciwch yma.
Os na all cwsmer ddod i’r digwyddiad heb gefnogaeth Cynorthwyydd Personol, byddwn yn darparu tocyn Cynorthwyydd Personol ychwanegol heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid cyflwyno cais am y tocyn hwn a rhaid iddo gael ei anfon ymlaen llaw. Rhaid cyflwyno un o’r mathau canlynol o ddogfennaeth ategol yn eich cais fel tystiolaeth o’ch gofynion ac i roi tocyn i Gynorthwyydd Personol. Cofiwch gynnwys un o’r canlynol gyda’ch cais:
Darperir y tocyn Cynorthwyydd Personol yn seiliedig ar y disgwyliad bod eich Cynorthwyydd Personol yn fodlon ac yn gallu eich cynorthwyo yn ystod eich ymweliad, ac y bydd ar gael ac yn gallu eich helpu os bydd angen gadael y lleoliad. I gyflwyno cais am docyn Cynorthwyydd Personol, anfonwch eich cais a’ch dogfennaeth i info@SummertimeLive.co.uk o leiaf 4 wythnos cyn dyddiad y digwyddiad. Sylwer bod ceisiadau’n cael eu prosesu’n wythnosol.
19 GOR 2024
16:00pm