Ydych chi'n chwilio am rywle i fwynhau brecwast i'r teulu neu ginio ysgafn, neu fwynhau'r gornel i blant bach sydd yn yr ystafell wydr wrth i chi yfed latte poeth neu hyd yn oed Frappe oer iawn?
01792 687205
http://www.bankfarmleisure.co.uk
Partner Swyddogol
Bank Farm Coffee Lounge
Mae gan y lolfa goffi fwydlen ddiodydd helaeth yn amrywio o de brecwast i goffïau arbenigol moethus. Mae gan y Lolfa Goffi rywbeth i bawb a gall hyd yn oed y rhai bach fwynhau siocled poeth gyda hufen chwip a malws melys. Mae gennym ddewisiadau amgen i laeth arferol fel llaeth soya neu laeth cnau coco.
Mae'n ardal steilus i gael clonc â ffrindiau ac ymlacio gyda choffi ffansi a byrbryd wrth edrych dros y pwll nofio. Beth am aros i fwynhau cinio ysgafn?
Mae'r Lolfa Goffi, sydd ag oriau agor hir ac sydd ar agor 7 niwrnod yr wythnos, yn atyniad a groesewir yng Ngŵyr. Croesewir cerddwyr a beicwyr, mwdlyd neu lân, o bob oed yn gynnes.
Bydd y plant bach a'r rhai mawr yn dwlu ar yr amrywiaeth o hufen iâ Mario's, ac mae dewis newydd o hufen iâ â ffrwythau (syndis) ar gael i'w bwyta y tu mewn neu i fynd â nhw gyda chi. Beth am dretio'ch hun i frowni siocled cartref heb glwten a diod boeth - rydych chi ar wyliau wedi'r cyfan. Mae crymbl afalau feganaidd ar gael gennym hefyd.
Mewn brys? Peidiwch â phoeni, gallwn wneud coffi i chi gael mynd ag e' gyda chi fel y gallwch gael dos o gaffein cyn i chi deithio adref ar ôl cael gwyliau teuluol rhagorol yng Ngŵyr.
Oriau agor
Tymor tawel a hwyr 9am tan 10pm
Tymor prysur 9am tan 11pm
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
No | No | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Oriau agor
March - December - 9am - 10pm
Times may change in low & late season
Cyswllt
Gwobrau
Food Hygiene Rating 5
Bwyd
Hygyrchedd