fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae traeth pert a charegog Bae Pwll Du ar waelod dyffryn. Mae’n draeth ar gyfer y mwyaf anturus, gan fod mynediad yn gyfyngedig i 3 llwybr troed.

Sut mae cyrraedd yno

Gellir cyrraedd yno mewn car ac ar gludiant cyhoeddus yn Llandeilo Ferwallt neu Southgate gerllaw.  Gallwch gyrraedd y traeth wrth gerdded ar hyd llwybr yr arfordir neu drwy Ddyffryn Llandeilo Ferwallt. Mae’r pellter rhwng y maes parcio a’r traeth dros 400m a gall gynnwys tir anodd neu arw (SA3 2HL).

Cyfleusterau

Maes Parcio: Mae’r lle parcio agosaf yn Llandeilo Ferwallt neu Southgate (tua 400m). Gall y pellter rhwng y maes parcio a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.

Toiledau: Nac oes.

Lluniaeth: Nac oes.

Cludiant cyhoeddus: Oes, mae cludiant cyhoeddus ar gael ychydig bellter i ffwrdd yn Llandeilo Ferwallt neu Southgate (tua 400m). Gall y pellter rhwng y safle bws a’r traeth gynnwys tir garw.

Cŵn: Caniateir cŵn drwy’r flwyddyn.

Mynediad i gadair olwyn: Nac oes.

Achubwyr Bywydau: Nac oes.

Chwarae’n Ddiogel!

Mae Bae Pwll Du yn addas ar gyfer chwaraeon dŵr ond does dim achubwr bywydau.