fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae traeth Llangynydd ar ymyl gorllewinol Penrhyn Gŵyr, mae’n boblogaidd iawn ymhlith syrffwyr.

Ble mae’ch lle hapus? Gwrandewch ar stori James sy’n esbonio pam mai Llangynnydd, Gŵyr yw ei ‘Le hapus’! Rydym yn sicrhau y gwelwch chi olygfeydd gwych o Rosili a Phen Pyrod, y tonnau gorau a thad a mab yn rhannu eu cariad at syrffio!

Sut i gyrraedd yno

Gellir cyrraedd pentref Llangynydd mewn car ac ar gludiant cyhoeddus, ac mae’r pentref tua 1/2 milltir o’r traeth (SA3 1JD).

Gall y pellter rhwng y maes parcio a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.

Cyfleusterau

Maes Parcio: Mae angen cerdded rhywfaint o’r maes parcio yng Ngwersyllfa Hillend (tua 200m) er mwyn cyrraedd y traeth. Mae lle parcio ar gael hefyd ym mharc carafanau Fferm Broughton. Taliadau’n berthnasol.

Toiledau: Yn y gwersylloedd cyfagos.

Lluniaeth: Mae lluniaeth ar gael ond mae’n rhaid cerdded rhywfaint i’w gyrraedd (tua 200m). Gall y pellter rhwng y lluniaeth a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.

Cludiant cyhoeddus: Oes, i draeth Llangynydd. Mae’r safle bws a’r traeth ychydig bellter i ffwrdd a gall gynnwys tir anodd neu arw.

Cŵn: Caniateir cŵn drwy gydol y flwyddyn.

Mynediad i gadeiriau olwyn: Na.

Achubwyr Bywydau: Na.

Mae’r traethau dan berchnogaeth breifat yn rhannol a than berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhannol.

Arhoswch yn ddiogel!

Os ydych yn syrffio yn Llangynydd, gwyliwch rhag llongddrylliadau pan fo’r llanw’n isel.