fbpx
Joio ein hatyniadau awyr agor yr haf!
Gweld Mwy

Gellir cyrraedd Traeth Cildraeth Brandi drwy ddilyn llwybr y clogwyni ym Mae Caswell. Mae’n fan anghysbell, ond ceir golygfeydd gwych yno.

Sut mae cyrraedd yno

Gellir cyrraedd yno mewn car ac ar gludiant cyhoeddus o Landeilo Ferwallt gerllaw (SA3 3DT).  Gallwch gyrraedd y traeth ar droed drwy Brandy Cove Road. Gall y pellter rhwng y maes parcio a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.

Cyfleusterau

Maes Parcio: Mae’r lle parcio agosaf yn Llandeilo Ferwallt. Gall y pellter rhwng y maes parcio a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.

Toiledau: Nac oes

Lluniaeth: Nac oes

Cludiant cyhoeddus: Oes, mae cludiant cyhoeddus ar gael ychydig bellter i ffwrdd yn Llandeilo Ferwallt. Gall y pellter rhwng y safle bws a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.

Cŵn: Mae cŵn yn cael eu gwahardd yn dymhorol o 1 Mai i 30 Medi

Mynediad i gadair olwyn: Nac oes

Achubwyr Bywydau: Nac oes

Chwarae’n Ddiogel!

Nid yw Cildraeth Brandi’n addas ar gyfer chwaraeon dŵr a does dim achubwr bywydau. Byddwch yn ofalus wrth ddisgyn y creigiau i’r traeth.