fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Gellir cyrraedd traeth cysgodol a thywodlyd Bae Tor drwy lwybr arfordirol sy’n rhedeg ar hyd y clogwyni. Gwych ar gyfer y rheini sy’n chwilio am olygfeydd a gellir archwilio pentir Great Tor.

Sut mae cyrraedd yno

Gellir ei gyrraedd mewn car neu ar gludiant cyhoeddus (SA3 2HL).

Gall y pellter rhwng y maes parcio a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.

Cyfleusterau

Maes Parcio: Mae maes parcio ar gyfer Bae Tor, ond mae e’ ychydig bellter i ffwrdd (tua 400m). Gall y pellter rhwng y maes parcio a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.

Toiledau: Nac oes

Lluniaeth: Nac oes felly cynlluniwch ymlaen llaw!

Cludiant cyhoeddus: Oes, mae cludiant cyhoeddus ar gael ychydig bellter i ffwrdd (tua 400m). Gall y pellter rhwng y safle bws a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.

Cŵn: Caniateir cŵn drwy’r flwyddyn.

Mynediad i gadair olwyn: Nac oes

Achubwyr Bywydau: Nac oes

Chwarae’n Ddiogel!

Nid yw Bae Tor yn addas ar gyfer chwaraeon dŵr a does dim achubwr bywydau.