fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Ble i ddechrau? Mae Bae Rhosili bob tro’n cael ei gynnwys yn rhestr 10 traeth gorau Cymru ac fe’i pleidleisiwyd fel y traeth gorau sawl tro. Mae wedi ennill sawl gwobr arall, gan gynnwys gwobr Travellers’ Choice TripAdvisor, ac mae’n un o’r mannau mwyaf prydferth yn y DU!

Disgrifiwyd Rhosili fel “archfodel traethau Prydain” gan The Independent ac mae wedi ennill anrhydeddau gan ysgrifenwyr teithio’r DU a gwobrau fel y lle gorau i gael picnic, un o leoliadau syrffio gorau Cymru a, heb anghofio’n hanifeiliaid anwes, enwebiad ar gyfer ‘y traeth gorau i gŵn yn y DU’ gan The Times.

EWCH AR DAITH RITHWIR

Felly pam mae’n denu’r fath sylw?

3 milltir o draethau tywodlyd sy’n amgylchynu un o dirnodau enwocaf Gŵyr, Pen Pyrod; mae’n addas ar gyfer chwaraeon dŵr, yn enwedig syrffio, oherwydd tonnau’r Iwerydd, a gellir adeiladu cestyll tywod gyda’r tywod mân euraid. Ceir golygfeydd heb eu hail y gallwch eu mwynhau o’r llwybrau cerdded niferus, sy’n cynnwys y traeth, Pen Pyrod a’r clogwyni, ac efallai y gwelwch ambell forlo’n torheulo neu ddolffiniaid yn chwarae yn y môr. Ac wrth gwrs, mae Bae Rhosili’n rhan o Lwybr Arfordir Gŵyr.

Sut i gyrraedd yno

Gellir cyrraedd pentref Rhosili, sydd ar ddiwedd penrhyn Gŵyr, mewn car neu ar gludiant cyhoeddus (SA3 1PP).

Gallwch gyrraedd Bae Rhosili drwy gerdded i lawr grisiau o’r pentref ger y maes parcio. Mae angen cerdded i lawr yn eithaf pell, ac yn anffodus, ni all cadeiriau olwyn fynd ar hyd y llwybr hwn. Mae’r golygfeydd ysblennydd yn sicr yn werth yr ymdrech. Ewch ar ddiwrnod heulog a chofiwch eich camera! Fel arall, ewch am dro ar hyd y llwybr cymharol wastad tuag at y Ganolfan Gwylio a mwynhewch y golygfeydd ar draws y bae a thuag at Ben Pyrod.

Cyfleusterau

Maes Parcio: Tua 400m i ffwrdd o’r bae. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/rhosili-ac-arfordir-de-gyr

Toiledau: Toiled cyhoeddus 24 awr gyda RADAR Ystafell newid babanod neillryw a chawod awyr agored.

Lluniaeth: Mae sawl man gwerthu bwyd yn y pentref – cymerwch gip ar ein tudalennau lleoedd i fwyta.

Cludiant cyhoeddus: Oes, gall y pellter rhwng y safle bws a’r traeth gynnwys tir garw.

Cŵn: Fe’u caniateir ar y traeth drwy’r flwyddyn.

Mynediad i gadeiriau olwyn: Nid i’r traeth.

Achubwyr Bywydau: Nac oes.

Mae lleoedd parcio, cludiant cyhoeddus a lluniaeth ar gael 400m o’r bae.

Arhoswch yn ddiogel!

Pan fyddwch yn mynd i Ben Pyrod, gwiriwch amserau’r llanw ac ewch i’r Ganolfan Gwylio. Peidiwch â chrwydro’n rhy bell oddi ar y prif lwybr ar hyd y pentir; mae’r clogwyni’n serth iawn!

Ar adeg trai, cadwch lygad am y llong ddrylliedig Helvetia, a ddrylliwyd ym 1887.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am hanes môr-ladron a smyglwyr Gŵyr.