Mae traeth Bae Langland yn addas i deuluoedd ac mae’n cynnig amrywiaeth da o gyfleusterau. Mae wedi ennill gwobr y Faner Las a’r Wobr Glan Môr a gall fforwyr fwynhau llwybr yr arfordir ar hyd y clogwyni i Fae Caswell.
Gellir cyrraedd yno mewn car neu ar gludiant cyhoeddus (SA3 4SQ).
Gall y pellter rhwng y maes a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.
Maes Parcio: Tua 100m o’r traeth, a gynhelir gan Gyngor Abertawe, gweler manylion a ffïoedd yma.
Toiledau: Toiled hygyrch a chawod awyr agored.
Lluniaeth: Mae sawl man gwerthu bwyd yn y pentref – cymerwch gip ar ein tudalennau lleoedd i fwyta.
Cludiant cyhoeddus: Oes, tua 400m o’r traeth. Mae peth pellter rhwng y safle bws a’r traeth a gall gynnwys tir anodd neu arw.
Cŵn: Mae cŵn yn cael eu gwahardd rhwng 1 Mai a 30 Medi.
Mynediad i gadeiriau olwyn: Oes.
Achubwyr Bywydau:
Gwyliau Pasg 23 Mawrth- 07 Ebrill
Daily 04 Mai- 15 Medi
Amserau patriolio 10am – 6pm
Mae Langland yn draeth dim smygu gwirfoddol.
Mae Langland yn addas ar gyfer chwaraeon dŵr ac mae’n boblogaidd ymhlith syrffwyr a phobl sy’n padlfyrddio. Mae achubwr bywydau’n gofalu am y traeth dros yr haf ond dylid bod yn ofalus.