fbpx
Joio ein hatyniadau awyr agor yr haf!
Gweld Mwy

Mae Bae Bracelet prydferth yn eistedd ar Ben y Mwmbwls. Mae ei draethlin greigiog yn arobryn, mae ganddo olygfa wych o’r goleudy a dyma’r lle perffaith i gael hufen iâ.

Sut i gyrraedd yno

Gellir cyrraedd yno mewn car neu ar gludiant cyhoeddus (SA3 4JT).

Gall y pellter rhwng y maes parcio a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.

Cyfleusterau

Maes Parcio: Tua 200m o’r traeth, wedi’i gynnal gan Gyngor Abertawe, manylion a thaliadau.

Toiledau: Toiledau hygyrch.

Lluniaeth: Lleoedd cyfagos.

Cludiant cyhoeddus: Oes.

Cŵn: Mae cŵn yn cael eu gwahardd rhwng 1 Mai a 30 Medi.

Mynediad i gadeiriau olwyn: Nac oes.

Achubwyr Bywydau: Nac oes.

Arhoswch yn ddiogel!

Mae’r traeth hwn yn greigiog felly byddwch yn ofalus, nid yw’n addas ar gyfer chwaraeon dŵr ond mae’n wych ar gyfer archwilio pyllau glan môr. Gallwch gyrraedd y goleudy yn ystod llanw isel ond gwiriwch amserau’r llanw neu byddwch chi’n sownd!