Bae Abertawe yw traeth dinas glan môr Cymru. Dyma’r enw a roddir hefyd i’r cyrchfan ehangach (Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr).
Mae Bae Abertawe’n ganolog ac yn hawdd ei gyrraedd, ac mae ychydig funudau i ffwrdd o ganol y ddinas. Mae hefyd yn Ganolfan Ragoriaeth Chwaraeon Dŵr.
Gellir ei gyrraedd mewn car neu ar gludiant cyhoeddus (SA2 0AY).
Gall y pellter rhwng y maes parcio a’r traeth gynnwys tir garw ond mae llwybrau da a phwyntiau mynediad ar hyd y traeth.
Maes Parcio: Tua 200m o’r traeth, wedi’i gynnal gan Gyngor Abertawe, manylion a thaliadau.
Toiledau: Toiledau hygyrch gyda chyfleusterau changing places ger The Secret Beach Bar & Kitchen.
Lluniaeth: Lleoedd cyfagos.
Cludiant cyhoeddus: Oes.
Cŵn: Mae cŵn yn cael eu gwahardd rhwng 1 Mai a 30 Medi.
Mynediad i gadeiriau olwyn: Oes.
Achubwyr Bywydau: Nac oes.
Mae Traeth Bae Abertawe’n addas ar gyfer chwaraeon dŵr.