fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Diwylliant Lan y Môr

Share

 

Celf ar Lan y Môr

Beach CultureGwnewch y mwyaf o’n tywod meddal a diddiwedd ac adeiladwch gestyll neu crëwch fwystfilod, creaduriaid y môr a siapau syfrdanol eraill. Am ysbrydoliaeth a syniadau, cadwch lygad am ddigwyddiadau cerfluniau tywod ar draws penrhyn Gŵyr drwy gydol y flwyddyn. Neu ewch i chwilio am ddeunyddiau celf morol a chreu eitemau anarferol ag iddynt flas y môr. Cewch froc wedi’i wynnu a’i lyfnu gan halen y môr, cregyn môr llawn lliwiau a phob math o froc môr diddorol ym maeau’r penrhyn (ewch i lan Rhosili, sy’n wynebu’r Iwerydd, am yr eitemau mwyaf anarferol).


Paentio a Chreu

WalkingMae ein harfordir yn ffynhonnell ddiddiwedd o ysbrydoliaeth. Caiff peintwyr a ffotograffwyr eu denu i forweddau trawiadol fel ehangder tywod a thonnau Rhosili, morfeydd heli annaearol Penclawdd a thraethlin ddelfrydol Bae’r Tri Chlogwyn. Mae orielau a siopau crefft ym mhob man sy’n llawn tystiolaeth o’r ysbrydoliaeth hon, yn enwedig yn y Mwmbwls. Mae ysgrifenwyr wedi’u denu at bŵer y dirwedd hefyd. Disgrifiodd y brodor lleol Dylan Thomas benrhyn Gŵyr fel ‘un o arfordiroedd mwyaf hyfryd Prydain’ (o bosib cyn iddo gael ei ynysu ar Ben Pyrod am noson o ganlyniad i golli’r llanw!). Roedd ei ffrind, Vernon Watkins, yn hoff o eistedd ym Mhwll Du, ac mae cyfeiriadau niferus at y penrhyn wedi’u gwasgaru drwy ei waith barddonol.