fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Cerdded #HwylBaeAbertawe

Share

Dilyn y Glannau

WalkingMae cerdded ar hyd 38 o filltiroedd Llwybr Arfordir Gŵyr yn brofiad y mae’n rhaid ei gael yn ystod Blwyddyn y Môr. Rhowch gynnig ar y llwybr cyfan, neu dewiswch rannau byrrach – y naill ffordd neu’r llall, cewch eich syfrdanu gan amrywiaeth trawiadol ein harfordir. O glogwyni calchfaen a chreigiog yn y de, heibio traethau tywodlyd helaeth yn y gorllewin ac ymlaen i forfeydd heli arallfydol yn y gogledd, mae pob milltir o benrhyn Gŵyr yn cynnig rhyw syndod newydd a swynol! A rhan o’r stori’n unig yw’r môr. Mae’r llwybr hefyd yn troelli drwy goetiroedd gwyrdd hyfryd a heibio nodau tir syfrdanol a wnaed gan bobl o oesoedd cynt, fel y Twll Culver dirgel ger Porth Einon ac Eglwys Llanilltyd, yn Oxwich.

 


Golygfeydd Gogoneddus

WalkingMae golygfeydd glan môr gogoneddus yn ddigon cyffredin yma. Wedi’r cwbl, Penrhyn Gŵyr oedd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU! Dyma ddau giplun o albwm lluniau gorlawn penrhyn Gŵyr – fista theatricalaidd dros Ben Pryod fwsoglyd a gwargrwm (gellir gweld yn hawdd pam cafodd ei enwi ar ôl anghenfil morol gan y Llychlynwyr), a Bae’r Tri Chlogwyn, sef panorama o dwyni, cors ac, wrth reswm, triawd o glogwyni sy’n haeddiannol o sêr Michelin. Ond nid y môr sy’n tynnu’r holl sylw. Ewch tuag ardal fynyddog Mawr am olygfeydd llydan o gronfeydd dŵr Lliw, a mentrwch i Goed Cwm Penllergaer a’i foethusrwydd gwyrddlas i weld dŵr yn rhaeadru dros raeadrau a wnaed gan ddyn.

 


Mwy o Gwybodaeth