fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Bwyd a Ddiod

Share

Cocos

Am flas chwedlonol y môr, does dim byd yn well na chocos ffres Penclawdd. Rydym wedi bod yn cynaeafu’r molysgiaid hyfryd hyn o’n dyfroedd clir ers cyfnod y Rhufeiniaid, ac maent yn dal i fod ymhlith y danteithion mwyaf blasus yn y byd bwyd o safon. Gorau oll, mae’r daith fer o’r môr i’r plât yn golygu bod ein cocos ymysg y mwyaf ffres sydd ar gael unrhyw le yn y DU. Prynwch rai ym marchnad dan do enwog Abertawe a’u mwynhau gyda chig moch a bara lawr (danteithfwyd lleol arall).

 


 

Pice ar y maen

Efallai na fydd pice ar y maen syml yn debygol o ymddangos yn her dechnegol y Great British Bake Off yn y dyfodol agos, ond mae’n dal i fod yn drît eiconig. Mae ein teisen genedlaethol, cyfuniad blasus a chytbwys o fenyn, wyau, blawd, sbeisiau a ffrwythau sych, yn gynnes ac yn groesawgar fel Cymru ar blât. Prynwch rai ym Marchnad Abertawe. Methu aros? Beth am greu rhai eich hun gyda’n rysáit.

 


 

Cawl

A staple of Welsh kitchens for centuries, the hearty broth we call cawl is a warming winter treat. Don’t go looking for a definitive recipe though. Traditionally made with whatever seasonal ingredients are available, every cook has their own take on this classic dish. You can generally expect to see some lamb and some leek (this is Wales, after all), but everything else rests on the personal preferences of the chef.

 


 

Hufen Iâ

O ran hufen iâ nad oes modd ei wrthsefyll, mae Bae Abertawe’n ennill y gystadleuaeth. Yn rhyfedd iawn, mae’r cyfan yn deillio o orffennol diwydiannol Cymru. Pan ddaeth Eidalwyr yma i weithio yn y pyllau glo a’r melinau dur ar ddiwedd y 19eg ganrif, daethant â’u ryseitiau teuluol cyfrinachol gyda nhw. Dros 100 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r ryseitiau hyn yn cael eu defnyddio o hyd mewn parlyrau fel Verdi’s a Joe’s (y ddau le ar lan môr prysur y Mwmbwls) i wneud hufen iâ diguro o’r cynhwysion Cymreig gorau.
 


 

Bird’s Custard

Mae’n frand Prydeinig enwog y mae bron pawb sydd wedi bwyta crymbl afal neu bwdin taffi gludiog yn gyfarwydd ag ef. Yr hyn sy’n llai hysbys yw bod powdwr Bird’s Custard wedi’i greu yn gyntaf mewn siop fferyllydd ar Heol Port Tennant, Abertawe. Roedd y fferyllydd Alfred Bird am greu dewis blasus amgen i gwstard traddodiadol ar gyfer ei wraig yr oedd ganddi alergedd i wyau. Defnyddiodd flawd corn yn lle wyau, a gwnaed hanes. Byddwch yn onest, wnaethoch chi erioed sylweddoli nad oedd wyau yng nghwstard Bird’s?