fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd ac mae gennym rai digwyddiadau ac atyniadau yn Abertawe i chi eu mwynhau wrth i’r dyddiau ddechrau ymestyn!

Mwynhewch drip i un ohonynt neu ymwelwch â chynifer ag y gallwch fel rhan o lwybr Bae Abertawe.

Mae ein hatyniadau awyr agored (Mawrth 31) ar agor eto ar ôl y gaeaf ac yn cynnig ffordd ddelfrydol o gael hwyl wrth wneud yn fawr o’r awyr agored.

Gallwch fynd ar bedalo ym Mharc Singleton – alarch neu ddraig, eich dewis chi yw e’!

Beth am roi cynnig ar golff gwallgof pan fyddwch yn y parc neu os ydych chi’n ffansïo gem arall mewn lleoliad yr un mor hyfryd, gallwch wneud hynny yng Ngerddi Southend yn y Mwmbwls.

Gallwch gael amser wrth eich bodd yn Lido Blackpill lle ceir pwll padlo a nodweddion dŵr (yn agor ar 29 Ebrill) a chofiwch Drên Bach enwog Bae Abertawe sy’n cynnig ffordd hyfryd o weld y golygfeydd.

Atyniadau Awyr Agored

Darganfyddwch stori diwydiant ac arloesedd yng Nghymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Trwy dechnoleg ryngweithiol mae’r amgueddfa’n darparu llawer o gipluniau o fywydau gweithwyr y genedl, yn aml yn cael eu hadrodd yn eu geiriau eu hunain. Fel hyn gall ymwelwyr ddadorchuddio gwreiddiau rhai o’n sefydliadau a’n cymunedau mwyaf poblogaidd a dylanwadol, o Undebau Llafur pwerus a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i Gymdeithasau Cyfeillgar a’r capeli anghydffurfiol hollbresennol.

Mae’r amgueddfa hon hefyd yn esbonio sut mae Cymru wedi gweld llawer o newidiadau yn yr hanner can mlynedd diwethaf, gan esblygu o fod yn wlad lle’r oedd diwydiant trwm a gwaith arloesol yn arferol, i wlad o ddiwydiant a masnach uwch-dechnoleg, ymchwil wyddonol flaengar a thwristiaeth amlochrog. Wrth i’r byd newid, felly hefyd Cymru.

Dewch i archwilio ein harddangosfeydd diddorol ac ymuno yn yr hwyl yn ein digwyddiadau niferus. O Lwybr Pasg Mawr yr Amgueddfa, Hwyl Y Pasg, gweithgareddau gwneud a chymryd a llawer mwy, mae rhywbeth at ddant pawb!

Rydym ar agor 7 diwrnod yr wythnos, gyda mynediad AM DDIM; felly dewch draw i weld sut y trawsnewidiodd tair canrif o ddiwydiant trwm fywydau pobl a chymunedau yng Nghymru a’r byd.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae Castell Ystumllwynarth ar agor (Ebrill 1) eto i groesawu ymwelwyr gyda chalendr llawn digwyddiadau gan gynnwys diwrnodau hwyl hanes byw ac archaeoleg.

Darganfod mwy

Os ydych yn mwynhau parti a cherddoriaeth wych, fyddwch chi ddim am golli digwyddiad Pride eleni. Disgwylir i’r ŵyl mynediad am ddim gael ei gynnal ddydd Sadwrn 29 Ebrill ar Lawnt yr Amgueddfa ger Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Darganfod mwy

Os ydych yn dwlu ar gerddoriaeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn gweld y perfformiad gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Brangwyn gyda’r Freuddwyd Americanaidd.

Rhagor o wybodaeth

Yn ogystal â gweithgareddau awyr agored gwych i’w mwynhau yn Abertawe, mae toreth o adloniant dan do hefyd i’w gael yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Canolfan Dylan Thomas ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, gan ddarparu llawer i ddifyrru teuluoedd dros wyliau’r Pasg beth bynnag fo’r tywydd.

Canolfan Dylan Thomas

Drwy gydol mis Ebrill, mae CDT yn cynnal ein llwybr ‘Hoff Losin Dylan’ o gwmpas ein harddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’.

Roedd Dylan wrth ei fodd yn bwyta losin yn y bath ac ysgrifennodd am rai o’i hoff rai yn ei straeon a’i ddarllediadau. Fel bachgen, roedd e’ hefyd yn arfer prynu losin o siop losin Mrs Ferguson cyn mynd i wylio ffilm yn sinema Uplands.

Wedi’i hysbrydoli gan hyn, mae gan CDT jariau bach cudd sy’n cynrychioli’r losin drwy ein harddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’.

Mae’n hwyl i deuluoedd o bob oedran ac mae gwobr i’r rheini sy’n dod o hyd i bob jar.

Mae digon i’w fwynhau dros wyliau’r Pasg gyda gweithdy ‘Creu theatr fach’ galw heibio am ddim, wedi’i ysbrydoli gan ein harddangosfa dros dro, ‘Dylan Thomas yn Fyw yn y YMCA’ mewn partneriaeth â YMCA Abertawe.

Cynhelir yr arddangosfa dros dro, sy’n cynnwys gwrthrychau sy’n taflu goleuni ar brofiadau actio Dylan yn ei arddegau, yn Neuadd Llewelyn, YMCA, tan ddydd Sul, 30 Ebrill. Mae’n cynnwys rhaglenni, posteri a chylchgronau o Gasgliad Dylan Thomas o Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg ac o archifau’r YMCA ei hun.

Bydd grŵp gwirfoddolwyr Canolfan Dylan Thomas yn cwrdd i greu rhagor o eitemau i gefnogi teuluoedd i ddysgu am Dylan Thomas a’n casgliad.

Byddwn hefyd yn mynd â’n gweithdai ysgrifennu creadigol poblogaidd ar daith eto mewn partneriaeth â llyfrgelloedd.

cadwch olwg am ragor o fanylion

Oriel Gelf Glynn Vivian

His Dark Materials – Creu Bydoedd yng Nghymru – cynhelir yr arddangosfa tan ddydd Sul, 23 Ebrill.

Abertawe Agored 2023 – tan ddydd Sul, 16 Ebrill. Cyhoeddir gwobr ‘Dewis y Bobl’ ddydd Mawrth, 4 Ebrill. Mae gan ymwelwyr tan 31 Mawrth i ddewis eu ffefryn.

Arddangosiad newydd – Enillydd Gwobr Wakelin 2022, Ingrid Murphy – tan ddydd Sul, 3 Medi.

Gweithgareddau dros wyliau’r Pasg O 1 i 7 Ebrill, ymunwch mewn cyfres o weithdai galw heibio creadigol i’r teulu cyfan, gan gynnwys sesiynau galw heibio creadigol gyda’n holl grwpiau cymunedol, Gweithdai Dydd Sadwrn i’r Teulu a Chlwb Ffilmiau i Deuluoedd.

Yn newydd ar gyfer mis Ebrill 2023 – Ddydd Sul, 2 Ebrill, ymunwch â ni ar gyfer dechrau hamddenol i’r diwrnod gyda’n sesiwn newydd, Ioga i Ddechreuwyr, ac yna Sinema Celf yn y prynhawn.

O 11 i 16 Ebrill, dewch i ddarganfod ein llwybrau difyr i deuluoedd a’n gweithgareddau hunanarweiniedig, gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.

Ddydd Sadwrn, 15 Ebrill, ymunwch â Screen Alliance Wales ar gyfer ein ‘Diwrnod Gyrfaoedd’ a derbyn gwybodaeth am y gyrfaoedd posib sydd ar gael yn y sector creadigol a sut y gallwch chi roi eich talentau ar waith!

Mae’r oriel ar agor rhwng 10am a 4.30pm bob dydd drwy gydol gwyliau’r Pasg, 1 i 16 Ebrill.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael

Amgueddfa Abertawe

Mewn cydweithrediad â ‘Wild Escape’ y Gronfa Gelf, dewch i Oriel Astudiaethau Natur yr amgueddfa a chreu stori ar gyfer ein creaduriaid. Gallwch gyfrannu at stori grŵp sydd eisoes ar gael neu ysgrifennu eich stori gyfan eich hun.

Mae’r amgueddfa hefyd yn cynnal dau weithdy galw heibio am ddim rhwng 10.00am ac 1.00pm:

Ddydd Iau, 6 Ebrill, addurnwch eich potyn planhigyn eich hun, yn barod ar gyfer plannu eich hadau gwanwyn.

Ddydd Iau, 13 Ebrill, dyluniwch a gwnewch eich blodau papur eich hun a fydd yn aros yn lliwgar drwy gydol y flwyddyn.

A chofiwch gasglu pecyn blodau gwyllt, sy’n cynnwys gweithgareddau, ffeithiau difyr a hyd yn oed eich hadau blodau gwyllt eich hun y gallwch chi eu tyfu!

Amgueddfa Abertawe

Llyfrgelloedd Abertawe

Llyfrgell Townhill

Stori a Chrefftau’r Pasg

Dydd Iau 6 Ebrill, 2.30pm – 3.30pm

Gweithdy’r Dogs Trust

(yn addas i blant 7 i 11 oed)

Dydd Iau 13 Ebrill, 2.30pm – 4.00pm

Mae’n rhaid cadw lle.

Cymhorthfa Hanes Teulu

Dydd Iau 20 Ebrill, 1.00pm – 4.00pm

Mae’n rhaid cadw lle.

Llyfrgell Sgeti

Sesiwn Grefftau’r Gwanwyn i blant 3 oed ac yn hŷn, 11 Ebrill am 2.00pm

Mae’n rhaid cadw lle.

Llyfrgell Treforys

Stori a Chrefftau i blant 3 oed ac yn hŷn – Dydd Llun, 3 Ebrill, 11.00am – 12.00pm

Busyfeet i blant rhwng 3 a 8 oed, Dydd Iau, 13 Ebrill, 10.30am – 11.00am

Ymunwch yn yr hwyl gyda sesiwn actif o ddawns a chân

Llyfrgell Tre-gŵyr

Stori a Chrefftau’r Gwanwyn

4 Ebrill, 10.30am – 11.30pm

3 oed ac yn hŷn

Rhaid cadw lle.

Rhagor o wybodaeth

 

Felly, p’un a yw’n llwybr diwylliannol, yn llwybr awyr agored neu’n llwybr hanes, nawr yw’r amser i ddod o hyd i’r un perffaith ar eich cyfer chi – Profwch ein Llwybrau – pam oedi?