Andrew Cottee arweinydd
Kerry Ellis canwr
Matthew Ford canwr
Dathlwch yr ŵyl gyda’r arweinydd Andrew Cottee a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wrth i ni ddychwelyd gyda’n Cyngherddau Dathlu’r Nadolig poblogaidd yng Nghaerdydd ac Abertawe.
Mae seren y Westend, Kerry Ellis, a seren canu’r Band Mawr, Matt Ford, yn ymuno â’r gerddorfa am noson, gyda chaneuon poblogaidd fel Santa Claus is Coming to Town, It’s the Most Wonderful Time of the Year a Sleigh Ride ymysg rhai o’r clasuron, pob un gyda naws jazz a swing. Mae’r cyngerdd Nadoligaidd bywiog yma, sy’n berffaith i’r teulu cyfan, yn siŵr o greu naws yr ŵyl, felly cofiwch wisgo eich siwmperi a’ch hetiau Nadoligaidd, a mynd i Neuadd Brangwyn i gael noson o gerddoriaeth gwych.