Mae’r haul yn disgleirio…
Mae’r diwrnodau’n hwy, mae’r tywydd yn gynhesach, mae pobl yn dechrau meddwl am fynd allan yn i’r awyr agored a gwneud y mwyaf ohono – mae’r haf wedi cyrraedd! Ac mae calendr o ddigwyddiadau gwych ar gael yma ym Mae Abertawe. P’un a ydych chi’n mwynhau cyngherddau awyr agored, parciau, traethau, atyniadau awyr agored, llwybrau hanesyddol neu leoliadau diwylliannol, mae gennym y cyfan.
Mae’r haul yn gwenu ac mae gan Abertawe lu o atyniadau mewn mannau i greu atgofion – dyma’r amser gorau i ddechrau gwneud
yn fawr o’r awyr agored.
Gellir dod o hyd i’n hatyniadau eiconig mewn darn 5 milltir o Fae Abertawe felly gallech ymweld ag un man neu gynifer ag y mynnwch a gwneud llwybr ohono.
Gallech fynd ar bedalo ym Mharc Singleton am reid hamddenol o gwmpas y llyn cychod – alarch neu ddraig, eich dewis chi yw e!
Beth am roi cynnig ar golff gwallgof pan fyddwch yn y parc ac os ydych chi’n ffansïo gêm arall mewn lleoliad gwahanol, gallwch wneud hynny yng Ngerddi Southend yn y Mwmbwls.
Os ydych chi’n ffansïo cael hwyl yn y dŵr, mae Lido Blackpill ar gael gyda phwll padlo a nodweddion dŵr – a gorau oll, gallwch ei fwynhau am ddim!
Ni fyddai trip i’r rhan hon o Abertawe’n gyflawn heb daith ar Drên Bach Bae Abertawe sy’n cynnig ffordd hyfryd o weld y golygfeydd.
Darganfyddwch stori diwydiant ac arloesedd yng Nghymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Trwy dechnoleg ryngweithiol mae’r amgueddfa’n darparu llawer o gipluniau o fywydau gweithwyr y genedl, yn aml yn cael eu hadrodd yn eu geiriau eu hunain. Fel hyn gall ymwelwyr ddadorchuddio gwreiddiau rhai o’n sefydliadau a’n cymunedau mwyaf poblogaidd a dylanwadol, o Undebau Llafur pwerus a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i Gymdeithasau Cyfeillgar a’r capeli anghydffurfiol hollbresennol.
Mae’r amgueddfa hon hefyd yn esbonio sut mae Cymru wedi gweld llawer o newidiadau yn yr hanner can mlynedd diwethaf, gan esblygu o fod yn wlad lle’r oedd diwydiant trwm a gwaith arloesol yn arferol, i wlad o ddiwydiant a masnach uwch-dechnoleg, ymchwil wyddonol flaengar a thwristiaeth amlochrog. Wrth i’r byd newid, felly hefyd Cymru.
Dewch i archwilio ein harddangosfeydd diddorol ac ymuno yn yr hwyl yn ein digwyddiadau niferus. O ddyddiau dawns, marchnadoedd hen bethau a chrefftau i Barti Haf Mawr GRAFT. Mae rhywbeth at ddant pawb!
Rydym ar agor 7 diwrnod yr wythnos, gyda mynediad AM DDIM; felly dewch draw i weld sut y trawsnewidiodd tair canrif o ddiwydiant trwm fywydau pobl a chymunedau yng Nghymru a’r byd.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Mae Bae Abertawe hefyd yn gartref i sawl parc gwych a llawer o draethau hardd – y mae gan dri ohonynt statws baner las. Ewch â phicnic a threuliwch y dydd yno!
Os ydych chi’n hoff o hanes, yna mae’n rhaid i chi ymweld â Chastell Ystumllwynarth sy’n dyddio nôl i’r 12fed ganrif – mae calendr llawn o ddigwyddiadau i’w mwynhau drwy gydol y flwyddyn a hefyd deithiau tywys rheolaidd a gynigir gan Gyfeillion Castell Ystumllwynarth.
Felly, p’un a ydych yn hoffi golff gwallgof, sgyrsiau hanes neu deithiau ar gwch neu drên, mae gennym ni’r llwybr i chi.
Neidiwch i’r haf gyda Chwaraeon ac Iechyd. Rydym yn cynnig chwaraeon hwyliog a gweithgareddau corfforol yn y gymuned leol, gan annog pobl o bob oed a gallu i fod yn egnïol, gwneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd.
Boed yn sesiynau gweithgaredd gan Pilates neu Tai Chi, gwersylloedd gwyliau i blant a phobl ifanc, teithiau cerdded hunan-arweiniol neu hyfforddwyr, mae gennym rywbeth i chi a’ch teulu yn ystod gwyliau’r haf.
Mae Sioe Awyr Cymru a’r perfformwyr gwych sydd wedi’u trefnu ar gyfer Parc Singleton yr haf hwn, gan gynnwys Madness, Tom Grennan a Ministry of Sound Classical, ymysg yr adloniant o’r radd flaenaf byddwn yn ei ddarparu ar eich cyfer.
Hefyd bydd Arena Abertawe’n croesawu amrywiaeth arbennig o berfformwyr gan gynnwys Hollywood Vampires – sy’n cynnwys yr arwyr cerddoriaeth roc Alice Cooper, Johnny Depp a Joe Perry o Aerosmith, gyda’r gitarydd Tommy Henriksen.
Beth bynnag fo’r tywydd, mae gan Abertawe ddigon o bethau i’w
mwynhau dan do gydag amrywiaeth o leoliadau diwylliannol sy’n addas i blant yn ogystal â’n 17 o lyfrgelloedd hyfryd.
Mae llawer o’n lleoliadau diwylliannol o fewn pellter cerdded i’w gilydd felly gallwch eu mwynhau fel rhan o lwybr cyffrous o amgylch y ddinas.
Beth am ddechrau yn Oriel Gelf Glynn Vivian ac ymweld â’r arddangosfa Anifeiliaid’ newydd sbon? Mae’n arddangos gwaith o gasgliad parhaol yr oriel ac mae’n rhoi’r cyfle i weld sut mae artistiaid wedi ymateb i’n perthynas ag anifeiliaid dros y canrifoedd.
O’r oriel gallwch fynd i Amgueddfa Abertawe a chael cip ar ei harddangosfa o’r enw Abertawe’r 20fed Ganrif sy’n archwilio casgliadau o Abertawe ar ôl y rhyfel.
Mae’n cynnwys gwisgoedd, ffotograffau, modelau a hyd yn oed bin concrit o Ddyfaty! Rownd y gornel mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sydd wedi trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau yn y misoedd sy’n dod ar gyfer pobl o bob oedran gan gynnwys digwyddiad Dewch i Ganu, cyfnewid llyfrau a dathliadau Diwrnod Ffoaduriaid
Paratowch bicnic a dewch i ymlacio yn lleoliad delfrydol Castell Ystumllwynarth ar gyfer dau berfformiad gwych yn y theatr awyr agored. Pa un ydych chi’n bwriadu ei weld? Neu a fyddwch chi’n cael hwyl yn gwylio’r ddau berfformiad?
Noddwr swyddogol yw holidaycottages.co.uk
Os ydych chi’n mwynhau perfformiadau byw, mae gennym bopeth o Valley Rock Voices ac Old Time Sailors-Sea Shanty yn Neuadd Brangwyn i Jurassic Earth ac In The Night Garden yn Theatr y Grand Abertawe.
Rydym yn gobeithio eich bod chi’n cytuno, mae popeth ar gael yn Abertawe’r haf hwn!