fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Gallwch fwynhau’r diwrnod mas perffaith i’r teulu yn Abertawe gyda thaith i’n hatyniadau awyr agored!

Ar hyd un darn 5 milltir o Fae Abertawe, gallwch ddod o hyd i Lyn Cychod Singleton a’r cwrs golff gwallgof yn lleoliad prydferth a hamddenol Parc Singleton, parc dŵr Abertawe yn Lido Blackpill, golff gwallgof yng Ngerddi Southend y Mwmbwls a Thrên Bach Bae Abertawe sy’n teithio ar hyd y prom.

Felly os hoffech chwarae golff gwallgof, ymlacio ar y pedalos, chwarae yn y lido neu fwynhau taith ar Drên Bach y Bae, mae rhywbeth at ddant pawb ar hyd Prom Abertawe!