fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Rydym yn dwlu ar wyliau’r haf, a Joio Bae Abertawe yw’r lle i ddod o hyd i’r gweithgareddau a’r digwyddiadau gorau yr haf hwn yn Abertawe!

Mae gwyliau’r haf ar ddod a chyda nosweithiau goleuach, pethau’n agor unwaith eto a chymaint i’w fwynhau ar garreg ein drws, mae gennym ddigon i edrych ymlaen ato’r haf hwn – croesi bysedd am heulwen!

Boed law neu hindda, rydym yn lwcus i fyw mewn ardal lle mae cymaint i’w weld, ei wneud a’i fwynhau – rydym yn ♥ Abertawe! Dyma rywfaint o syniadau i gadw’r teulu cyfan yn brysur yr haf hwn…

#CaruAbertawe yn yr Awyr Agored…

Mae atyniadau awyr agored Abertawe ar agor! Felly os ydych chi’n chwilio am hwyl i’r teulu ac awyr iach dros y gwyliau, dyma ble i fynd…

♥ Prom Abertawe

P’un a ydych chi eisiau mynd am dro, ar gefn beic, chwarae rownd o golff, nofio neu fynd ar daith pedalo hamddenol, gallwch ddod o hyd i oriau o hwyl ar brom ysblennydd Abertawe sy’n 5 milltir o hyd. Darllenwch ymlaen am ragor o fanylion!

♥ Golff gwallgof

Os ydych chi eisiau profi eich sgiliau taro a phytio, neu am gael her i’r teulu, mae’r cyrsiau golff gwallgof yn Llyn Cychod Singleton a Gerddi Southend, y Mwmbwls ar agor 11am-5pm ar benwythnosau a thrwy gydol gwyliau’r ysgol.

♥ Llyn Cychod Singleton

Beth am fynd ar bedalo! Mae Llyn Cychod Singleton ar agor 11am – 5pm ar benwythnosau a thrwy gydol gwyliau’r ysgol – cadwch lygad am y pedalos lliwgar newydd ar ffurf ceir!

♥ Lido Blackpill

Mae ein parc dŵr am ddim ar agor 9am-5pm bob dydd tan ddiwedd fis Awst. Gyda’i bad sblasio, nodweddion dŵr, man chwarae i blant a chyfleusterau picnic, mae’n ddiwrnod mas gwych i’r teulu.

♥ Parciau, Gerddi a Gwarchodfeydd Natur

Yn sicr, does dim prinder mannau gwyrdd i’w mwynhau yn Abertawe, gyda 52 o ardaloedd i ategu ei harfordir. Mae chwech ohonynt – Gerddi Clun, Parc Victoria, Parc Brynmill, Parc Cwmdoncyn, Parc Llewelyn a’r Gerddi Botaneg ym Mharc Singleton – wedi derbyn Gwobrau’r Faner Werdd.

P’un a ydych am ymlacio a dadflino mewn mannau gwyrdd tawel, edmygu arddangosfeydd blodau hardd, edrych ar y bywyd gwyllt, mwynhau picnic braf neu gadw’r teulu’n brysur gyda lleoedd chwarae, gweithgareddau ffitrwydd, helfeydd trychfilod a reidiau cychod, mae parciau Abertawe’n lle gwych i fwynhau’r awyr iach.

♥ Diwrnodau ar y traeth

Ydych chi’n cynllunio diwrnod ar y traeth? Pan fydd yr haul yn tywynnu, does dim lle gwell i fynd nag i un o’n traethau hyfryd. Mae gennym ddigon o ddewis ar gael – rhai tywodlyd braf a diogel, rhai creigiog diddorol, traethau gyda golygfeydd syfrdanol ac erwau o le.

Ble bynnag y byddwch yn dewis, cofiwch chwarae’n ddiogel, byddwch yn ymwybodol o’r hyn sydd o’ch cwmpas ac os ydych yn mynd yn y môr, dewiswch draeth â gwarchodwr bywyd.

Rydym yn cydweithio gyda’n ffrindiau yn Cycle Solutions i gynnal cystadleuaeth y mae’n hawdd cofrestru amdani, gyda’r cyfle i ennill beic gwych.

Gall plant 14 oed ac yn iau gymryd rhan. Rhaid cael caniatâd rhiant. Ewch i’n gwefan am fanylion llawn, gan gynnwys yr atyniadau sy’n cymryd rhan. Gallwch hyd yn oed gofrestru ar-lein!

♥ ParkLives

Fe wnaethon ni i gyd golli ein haf o hwyl y llynedd, ond mae gan ein tîm Chwaraeon ac Iechyd ddigon o weithgareddau i wneud iawn amdano’r haf hwn, gyda rhaglen lawn dop o sesiynau awyr agored hwylus i blant o bob oed a gallu!

Yn llythrennol, mae cannoedd (go iawn!) o wahanol sesiynau i chi ddewis ohonynt, felly os yw eich rhai bach yn barod o’r diwedd i reidio beic heb sefydlogyddion gallant roi cynnig ar un o’n sesiynau beiciau cydbwysedd, neu beth am roi cynnig ar ein sesiynau hollgynhwysol gydag ychydig o Boccia?

A wnaethom sôn bod y rhain i gyd AM DDIM? Ydy, mae hynny’n iawn, mae’r sesiynau hyn am ddim, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu lle ar gyfer y sesiwn o’ch dewis.

Peidiwch â stopio darllen eto… oes, mae rhagor i ddod…. i ddechrau, rydym yn falch o allu ychwanegu ‘chwaraeon dŵr’ at ein hamserlen llawn antur. Felly, os yw’n well gennych fod ar y dŵr dros dir sych, mae gennym sesiynau padlo bwrdd ar eich traed, canŵio a chwaraeon dŵr. (Dim ond £3.50 + 66p ffi archebu fach yw ein gweithgareddau chwaraeon dŵr!)

#CaruAbertawe Dan Do…

Fel y gwyddom, nid yw’r haul bob amser yn tywynnu yn Abertawe – ond nid yw hynny’n mynd i ddifetha ein gwyliau haf, mae digon o hwyl i’w gael dan do.…

♥ Llyfrgelloedd Abertawe

Ydych chi’n barod am haf o hwyl ar-lein yn Llyfrgelloedd Abertawe?

Dewch yn Arwr y Byd Gwyllt!

Ymunwch ag Arwyr y Byd Gwyllt ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf 2021 i ddarganfod sut gallwch wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd. Bydd Sialens Ddarllen yr Haf eleni yn ddathliad o ddarllen, natur a gweithredu ar gyfer yr amgylchedd a bydd yn cyfuno mynediad am ddim at lyfrau gyda gweithgareddau hwyl, creadigol yn ystod gwyliau’r haf.

Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â WWF, prif sefydliad cadwraeth annibynnol y byd, bydd Arwyr y Byd Gwyllt yn ysbrydoli plant i sefyll dros ddyfodol ein planed.

A chofiwch gadw llygad ar y dudalen Facebook ar ddydd Gwener am 10.30am ar gyfer Amser Rhigwm gyda Sue.

♥ Arddangosfa Dylan Thomas

Bydd gweithgareddau gwyliau’r haf gydag Arddangosfa Dylan Thomas yn seiliedig ar ddarllediad radio Dylan Thomas, ‘Holiday Memory’, sy’n disgrifio bod ar wyliau gartref a mwynhau Gŵyl y Banc heulog ar y traeth. Cadwch lygad am ysgogiadau ysgrifennu, chwileiriau a gemau a thaith dywys o Abertawe Dylan!

Cofiwch fod Arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ Dylan Thomas bellach ar agor eto; Dydd Iau – Dydd Sul, 10am-4pm.

Darganfod rhagor a threfnu eich ymweliad am ddim

♥ Amgueddfa Abertawe

Mae’r amgueddfa hynaf yng Nghymru wedi ailagor ei drysau i helwyr treftadaeth a meddyliau chwilfrydig!

Ewch i’r Ystafell Archaeoleg lle gallwch weld gwrthrychau o’r cyfnod cyn hanes hyd at y cyfnod canol oesol. Ar draws y pen grisiau yn yr Oriel Hanes, mae’r casys wedi’u haildrefnu ac mae rhagor o wrthrychau o’r casgliad yn cael eu harddangos yn awr i adrodd hanes datblygiad diwydiannol Abertawe, o’r oes Fictoraidd gynnar i’r oes fodern, yn well.

Maen nhw’n dweud y gallwch ddweud llawer am bobl o’r dillad maen nhw’n eu gwisgo, a dyna pam mae’r amgueddfa wedi dod â’i chasgliad o wisgoedd allan o’r storfa ddiogel i’w harddangos mewn arddangosfa newydd gyffrous sy’n bwrw goleuni ar hanes cymdeithasol Abertawe.

Mae Amgueddfa Abertawe ar agor ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener i ddydd Sul, 10am – 3pm. Darganfod rhagor a threfnu eich ymweliad am ddim.

♥ Oriel Gelf Glynn Vivian

Dewch i Oriel Gelf Glynn Vivian yr haf hwn i ddarganfod byd o gelf i’ch ysbrydoli!

Mae’r Oriel ar agor gyda thymor o arddangosfeydd cyffrous gan gynnwys ‘Ar thema Natur: Chwe merch o’r casgliad’ yn yr atriwm a gwaith anhygoel yr artist tecstilau Anya Paintsil yn Ystafell 7.

Crwydrwch o gwmpas arddangosfeydd y Casgliad i ddarganfod hanes sylfaenydd yr Oriel, Richard Glynn Vivian, ynghyd â chasgliad o gelfyddydau gweledol yr Oriel, o Dsieni Abertawe i gelfyddyd Gymreig a chyfoes yr 20fed ganrif.

Mae celfweithiau gan gymunedau a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cael eu harddangos hefyd ar hyn o bryd, gan gynnwys ‘Cardiau Post i’r Dyfodol’ a ‘Baner Croeso’ a wnaed mewn partneriaeth ag ‘Abertawe Dinas Noddfa’ i goffáu eu pen-blwydd yn 10 oed.

Os ydych yn ymweld gyda’ch plant, cofiwch gasglu Llwybr i Deuluoedd i’ch tywys o gwmpas yr orielau – mae’n llawn syniadau creadigol i chi roi cynnig arnynt. Gallwch hefyd godi bag celf am ddim i barhau â’ch gwaith celf gartref.

Ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul, 10.30am – 4pm. Darganfod rhagor a threfnu eich ymweliad am ddim.

♥ Archifau Gorllewin Morgannwg

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yw’r lle i ddysgu am eich ardal leol, dysgu rhagor am hanes, olrhain hanes eich teulu, ymchwilio i’ch traethawd myfyriwr a llawer mwy.

Wedi’i leoli yn y Ganolfan Ddinesig, mae’r Gwasanaeth ar agor rhwng 10am a 12.30pm a 1.30pm a 4pm ddydd Mawrth i ddydd Gwener. Mae archebu lle ymlaen llaw yn hanfodol.

Gallwch hefyd chwilio drwy’r catalogau ar-lein, archwilio’r arddangosfeydd ar-lein neu ofyn i ni wneud ymchwil ar eich rhan. Ceir gwybodaeth lawn am sut i gael mynediad at y gwasanaeth yma.

Peidiwch â cholli’r digwyddiadau gwych hyn!

Joiwch Abertawe. Yn gyfrifol.

Cofiwch, pan fyddwch yn mynd allan, byddwch yn gyfrifol ac yn ystyriol, a dilynwch y cyfarwyddiadau diogelwch isod, fel y gallwn sicrhau bod Abertawe’n lle diogel i bawb ei fwynhau:

  • Arhoswch gartref os ydych chi’n teimlo’n sâl, yn enwedig os oes gennych beswch parhaus, tymheredd uchel neu os ydych wedi colli’ch synnwyr blasu neu arogli.
  • Cadwch bellter cymdeithasol – cadwch 2 fetr ar wahân.
  • Gwisgwch fwgwd – mae’n orfodol mewn mannau cyhoeddus dan do, fel amgueddfeydd ac orielau, siopau a thoiledau cyhoeddus. Caiff plant dan 11 oed a phobl â chyflyrau iechyd eu heithrio.
  • Golchwch eich dwylo’n rheolaidd – am 20 eiliad neu fwy, yn enwedig cyn ac ar ôl bod allan.
  • Gadewch olion traed yn unig – defnyddiwch y biniau sydd ar gael i daflu’ch sbwriel, ac os ydyn nhw’n llawn neu does dim ar gael, ewch â’ch sbwriel adref â chi.