fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Ddydd Gwener 28 Ionawr, bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero:

  • Bydd clybiau nos yn ailagor.
  • Rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol ar gyfer y coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau’r perygl o ledaenu’r coronafeirws.
  • Bydd y gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sydd ar agor i’r cyhoedd a gweithleoedd yn dod i ben.
  • Ni fydd y rheol chwech o bobl mewn grym mwyach ar gyfer ymgynnull mewn safleoedd a reoleiddir, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau.
  • Ni fydd angen i safleoedd trwyddedig ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig na chasglu manylion cyswllt.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori gweithio gartref ond ni fydd hyn yn ofyniad cyfreithiol mwyach.
  • Bydd y Pàs Covid yn ofynnol o hyd i fynd i ddigwyddiadau mawr dan do, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.

Bydd y rheolau hunanynysu ar gyfer pawb sy’n cael canlyniad positif i brawf Covid a’r rheolau ar wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoedd cyhoeddus dan do yn parhau ar ôl 28 Ionawr.

Dilynwch y dolenni swyddogol isod i gael yr arweiniad a’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â COVID-19. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gan ddefnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf am deithio fel y bo’n briodol.

Gorchuddion Wyneb

Yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, mae’n ofynnol i bobl dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau dan do cyhoeddus megis siopau. Bydd gorchuddion wyneb yn ofynnol mewn lleoliadau lletygarwch bob amser heblaw pan fo pobl yn eistedd. Sicrhewch eich bod chi’n dilyn yr arweiniad diweddaraf ac yn talu sylw i unrhyw arwyddion sydd ar gael mewn unrhyw le cyhoeddus dan do rydych chi’n ymweld ag ef.

Sicrhewch eich bod chi’n dilyn yr arweiniad diweddaraf ac yn talu sylw i unrhyw arwyddion sydd ar gael mewn unrhyw le cyhoeddus dan do rydych chi’n ymweld ag ef. Rhagor o wybodaeth.

Llyfrgelloedd Abertawe

Mae llyfrgelloedd Abertawe ar agor ar gyfer pori a defnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd. Gwiriwch fanylion llyfrgelloedd unigol i weld pa wasanaethau sydd ar gael. Mae holl lyfrgelloedd Cyngor Abertawe yn ddiogel o ran COVID, gyda mesurau glanhau ychwanegol a chyfnodau cwarantîn ar waith.

Mae gwasanaethau Clicio a Chasglu a gwasanaethau digidol fel adnoddau ar-lein, e-lyfrau, e-lyfrau llafar ac e-gylchgronau ar gael o hyd. Mae’r gwasanaeth Clicio a Chasglu wedi bod yn hynod boblogaidd gyda phreswylwyr Abertawe ac mae yma i aros – mae’r tîm yn llyfrgelloedd Cyngor Abertawe yma i’ch helpu i ddod o hyd i’ch hoff lyfrau neu i fod yn siopwyr llyfrau personol i chi. Os nad ydych yn barod i alw heibio’ch llyfrgell leol eto, gallwn drefnu i ddosbarthu llyfrau i garreg eich drws mewn modd sy’n ddiogel o ran COVID.

Gallwch weld yr holl wybodaeth ar-lein neu ffoniwch 01792 636464.

Oriel Gelf Glynn Vivian

Bydd Oriel Gelf Glynn Vivian yn oriau agor llai a byddant ar agor am lai o ddiwrnodau i sicrhau bod yr Oriel yn ddiogel ar gyfer eich ymweliad nesaf. Bydd yr Oriel ar agor ddydd Mercher i ddydd Sul rhwng 10.30am a 4.00pm, gyda mynediad olaf am 3.30pm.

Mae mynediad am ddim o hyd, ond bydd rhaid i ymwelwyr archebu lle ar-lein ymlaen llaw.

Sicrhewch eich bod yn dilyn y canllawiau diweddaraf ac yn rhoi sylw i unrhyw arwyddion sydd ar waith mewn unrhyw le dan do rydych yn ymweld ag ef.

Ewch i Glynnvivian.com am ragor o wybodaeth.

Arddangosfa Dylan Thomas

Ein horiau agor dros dro yw 10am i 4pm ddydd Mercher i ddydd Sul. Does dim angen i chi gadw slot i ymweld, ond byddwn yn monitro niferoedd ar y safle i sicrhau bod digon o le i bobl cadw pellter corfforol oddi wrth ei gilydd. Ffoniwch ni os ydych yn grŵp mawr a gallwn eich cynghori ymhellach.

Er nad yw ein man dysgu ar agor eto, mae’r Llwybr i Blant ar gael – dewch â’ch pensil eich hun i’w gwblhau.

Ewch i DylanThomas.com am ragor o wybodaeth.

Amgueddfa Abertawe

Bydd Amgueddfa Abertawe ar agor  ar ddydd Mawrth a dydd Mercher ac o ddydd Gwener i ddydd Sul, 10am – 3pm.

Ewch i Amgueddfa Abertawe am ragor o wybodaeth.

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg ar agor ond bydd rhaid i chi gadw lle ymlaen llaw. Mae gwybodaeth lawn am sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar gael yma.

Yn y cyfamser, gallwch chwilio yn ei gatalogau ar-lein, pori ei arddangosiadau ar-lein neu ofyn iddyn nhw archwilio i rywbeth ar eich rhan.

Ewch i Archifau Gorllewin Morgannwg am ragor o wybodaeth.

Parklives

Mae Parklives yn ôl, dan arweiniad Tîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe.

Yma i gynnig gweithgareddau ffitrwydd hwyl ac am ddim ym mharciau a mannau gwyrdd Abertawe, mae’n cynnig sesiynau wythnosol i oedolion yn ogystal ag wythnosau o weithgareddau hwyl i blant yn ystod gwyliau’r hanner tymor a gwyliau’r ysgol.

Rhagor o wybodaeth am Parklives.

 

 

Wrth i’r cyfyngiadau barhau i gael eu llacio ac wrth i’n lleoliadau ddechrau ailagor, cofiwch fod yn gyfrifol, yn ystyriol, dilynwch y cyfarwyddiadau diogelwch, a Joiwch Bae Abertawe. yn gyfrifol.