fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth
BLOG | March 04, 2021

Iawn, felly rydyn ni'n deall nad ydyn ni'n gwybod yn iawn pryd y gallwn ni gael gwyliau gartref yr haf hwn, ond yr hyn rydyn ni'n ei wybod yw bod gobaith ar y gorwel!

Felly beth am lunio rhestr ddymuniadau a nodi’r holl bethau yr hoffech eu gwneud yn ystod eich seibiant nesaf ym Mae Abertawe, i’ch helpu i gynllunio’r gwyliau perffaith.  Rydym newydd nodi rhai syniadau i’ch helpu i ddechrau arni.  I ddechrau, gwyliwch ein fideo er mwyn cael ysbrydoliaeth (ydych chi’n cofio’r baeau, y traethau, y môr, y tywod, y bryniau gwyrdd a’r amserau da? Efallai y daw hyn â dagrau i’ch llygad!) Rhannwch eich rhestr ddymuniadau Bae Abertawe gyda ni ar Facebook @BaeAbertawe

 

*Gwnaed y fideo hwn cyn cyfyngiadau teithio COVID-19*

 

Mynd am dro hir, hyfryd

Mae’n bwysig bod pob un ohonom yn cerdded er ein lles, a bydd yn dda cael ymestyn ein coesau yn rhywle gwahanol unwaith eto.  I ble byddwch chi’n mynd am dro?  Llwybr godidog arfordir Gŵyr, crwydro o gwmpas y rhaeadrau yng Nghoed Cwm Penllergaer neu ar hyd y prom.

 

Canfod rhagor am gerdded ym Mae Abertawe

Symud yn fwy!

Mae pob un ohonom yn barod am ychydig mwy o gyffro. Rydym yn barod i deimlo’r gwynt yn ein gwallt a’r môr ar ein hwynebau. Mae digon o gyffro i chi ei fwynhau – yn y dŵr neu ar dir sych.  Oes angen help arnoch?  Mae digon o ddarparwyr gweithgareddau arbenigol ar gael i’ch helpu i ddechrau ar eich antur newydd!

Roi cynnig ar weithgaredd ym Mae Abertawe

Hwyl fel teulu

Mae pob un ohonoch yn haeddu peth amser i chi’ch hun. Mae gennym draethau y gallwch redeg yn wyllt arnynt, pyllau y gallwch sblasio ynddynt, parciau a mannau agored eang i chwarae ynddynt ar gyfer llu o anturiaethau awyr agored. Gyda’ch gilydd gallwch adeiladu cestyll tywod, hedfan barcutiaid, chwarae pêl-droed a mwynhau llawer o awyr iach!

 

Hwyl yn yr awyr agored  fel teulu ym Mae Abertawe ar yr arfordir

Beth am deithio drwy amser?

Ydych chi wedi gwylio pob rhaglen ddogfen ar y teledu ac yn ysu am ychydig o dreftadaeth? Beth am gestyll canoloesol â thyrau, a straeon am arglwyddi a thywysogion? Neu efallai hanes am arglwyddi rhyfel llychlynnaidd a safleoedd hynafol llawn dirgelwch? Gall ein cestyll a’n hamgueddfeydd ni eich tywys ar daith yn ôl i’r cyfnod cyn hanes hyd at y presennol.

Canfod rhagor am dreftadaeth

Hanfodion gwyliau gartref

Rhywle clud i aros…

mae gennym syniadau gwych am leoedd i aros – ewch i gael cip – gallwch glampio ym mhenrhyn Gŵyr, aros mewn bwthyn clud neu leoliad pedwar seren – ble bynnag y byddwch yn gweld y symbol ‘We’re Good To Go’ (Barod Amdani), gallwn sicrhau bod eich gwesteiwr wedi derbyn achrediad am ddiogelwch a hylendid.

Sicrhewch eich bod yn gwirio’r amodau a thelerau gohirio a chanslo cyn i chi drefnu, er mwyn osgoi cael eich siomi os bydd y sefyllfa’n newid cyn i chi deithio.

Temtio’ch blasbwyntiau…

Mae gennym leoedd hyfryd i chi fwynhau cinio, caffis clud a bwytai arobryn o safon. Cymerwch gip ar ein dewis – cynhwysion ffres lleol a dewis o fwydydd, ac, yn aml, bwrdd â golygfa – mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at gael saib o olchi’r llestri am unwaith! Chwiliwch am y symbol ‘We’re Good to Go (Barod Amdani) i gael tawelwch meddwl.

Barod amdani!

Dyma rai syniadau’n unig – hoffem glywed am eich rhestr ddymuniadau Bae Abertawe CHI – rhowch wybod i ni yn @baeabertawe!

Caewch eich llygaid a breuddwydiwch am eich gwyliau gartref nesaf ym Mae Abertawe! Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl!

Dewch i Fae Abertawe. Yn y dyfodol.